Y Garthen
£8.99
Antur hanesyddol am Pegi, merch 13 oed sy’n byw efo’i brawd, Ifan, a’i Nhain ffwndrus. Mae Pegi ac Ifan yn gweithio yn Ffatri Wlân Rhyd Ddu, Pen Llŷn. Un bore, daw Pegi o hyd i gwdyn o arian wedi’i ddwyn o’r ffatri ac mae Amos Williams, rheolwr y ffatri, yn cyhuddo Ifan o’i gymryd.
Ydy Ifan, undebwr sy’n ddraenen yn ystlys Amos, yn euog? Neu ai Amos ei hun sy’n llwgr? Dim ond Pegi all glirio enw ei brawd, gyda help annisgwyl ei Nain, sy’n cofio mwy am orffennol tywyll Amos nac y mae pawb yn feddwl.
400 in stock