Popeth am Amrywiaeth / All About Diversity
£9.99
Addasiad dwyieithog o’r llyfr All About Diversity gan Felicty Brooks.
Dyma lyfr sy’n cynnig cyfleoedd arbennig i ddysgu a dathlu amrywiaeth o’n cwmpas. Mae’r darluniau lliwgar ac apelgar yn annog plant i archwilio a dysgu am amrywiaeth mewn ffordd hwyliog a deinamig. Mae’r llyfr yn hyrwyddo pwysigrwydd bod yn garedig ac i drin pawb yn gyfartal, beth bynnag eu siâp, maint, oedran, gallu corfforol a meddyliol, rhywedd, ethnigrwydd, credoau, iaith, diwylliant, cefndir, ac yn y blaen.
Gyda phynciau amrywiol o ddillad a cherddoriaeth a bwyd a chartrefi i wyliau a theuluoedd, mae digon i blant siarad amdano wrth iddyn nhw ddarganfod am yr hyn sy’n gwneud pobl yn wahanol a’r pethau sy’n eu gwneud yn unigryw.
Mae’r llyfr yma’n helpu plant i ddeall ac ymfalchïo (nid bod yn ‘oddefgar’ yn unig) gwahaniaethau o bob math gan ddatblygu hunanhyder ac yn hyrwyddo cymdeithas gyfartal a theg, sy’n ei dro yn cefnogi datblygiad, addysg a lles pob plentyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dimensiynau | 264 × 330 mm |
---|---|
Age | 0-3, 4+, Under 5, Under 7 |
Author(s) | |
Format | |
Illustrator(s) | |
Language | Bilingual |
Pages | |
Cyhoeddwr | Atebol |
Publication Date | |
Translator(s) |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.