Dysgu gyda Sali Mali: Byd Natur
£8.99
Dewch am dro gyda Sali Mali a’i ffrindiau i ddarganfod rhyfeddodau byd natur. Dyma gyfle i fwynhau a dysgu ffeithiau difyr am bob math o greaduriaid, coed a phlanhigion.
Dilynwch Sali Mali, Jac y Jwc a Jac Do wrth iddyn nhw droedio llwybrau’r goedwig, ar lan y môr ac yn y gors. Mae’r tudalennau’n cynnwys darluniau lliwgar, llawn manylder sy’n wych ar gyfer helpu plant i adnabod a gwahaniaethu rhwng adar, trychfilod, coed a blodau amrywiol sydd yn eu hamgylchedd naturiol.
Mae’r naratif yn ennyn diddordeb y plant drwy ofyn cwestiynau uniongyrchol iddyn nhw, e.e. Wyt ti’n gallu gweld… Mae’n gyfle gwych i helpu plant o amrywiaeth o ddiwylliannau i ddysgu am fyd natur gan gadw at ffeithiau ac ieithwedd syml. Mae’n cyflwyno geiriau ychydig yn fwy anghyfarwydd i Gymry Cymraeg, gan sicrhau cyfle i bawb ddysgu rhywbeth o’r newydd. Heb anghofio wrth gwrs, y cyfle i chwilio am bethau gwahanol sy’n cuddio o fewn y darluniau!
Mae’n llyfr perffaith i ennyn diddordeb plant at fyd natur a’i ryfeddodau a pha mor bwysig ydyw, a bod angen i bawb ei barchu a gofalu amdano.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dimensiynau | 210 × 210 mm |
---|---|
Author(s) | |
Format | |
Illustrator(s) | |
Language | Bilingual |
Pages | |
Publication Date | |
Cyhoeddwr | Atebol |
Age | 0-3, 4+, Under 5, Under 7 |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.