Dw i’n Bril!
Original price was: £10.99.£8.99Current price is: £8.99.
Rwy’n gryf. Rwy’n ddewr.
Rwy’n gallu delio ag unrhyw beth.
Llyfr fydd yn helpu pob plentyn i fod yn bositif am yr heriau sy’n eu hwynebu yn ystod eu plentyndod. Mae pob plentyn yn wynebu sefyllfaoedd sy’n gallu bod yn anodd. Mae’r llyfr hwn yn cynnig 365 o syniadau – un am bob dydd o’r flwyddyn – ar sut i fod yn bositif a goresgyn unrhyw sefyllfa anodd. Canllaw ymarferol syml sy’n rhoi’r nerth a’r penderfyniad iddyn nhw oresgyn pob problem. Mae’n cynnig cymhelliant ac anogaeth heb sôn am ddangos sut mae eraill fel Rosa Parks a Greta Thunberg wedi llwyddo.
Mae yma weithgareddau bach syml hefyd i dawelu fel yr olwyn dro neu’r botel bositif. Mae’r pwyslais ar gynnig strategaethau meddwl sy’n gadarnhaol. Beth bynnag fo’r broblem yna “Dw i’n Bril!”
Gwybodaeth Ychwanegol
Dimensiynau | 223 × 283 mm |
---|---|
Age | 4+, 7+, Ages 7-9, Under 7 |
Author(s) | |
Format | |
Language | Welsh |
Pages | |
Publication Date | |
Cyhoeddwr | Atebol |
Translator(s) |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.