Dim ond cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi sydd wedi prynu'r cynnyrch hwn a all adael adolygiad.
Ymdopi â Thrawma Geni ac Iselder Ôl-enedigol
£9.99
Mae plant yn wych. Dyna pam ein bod ni’n eu cael nhw. Ond beth am y teimladau negyddol sydd hefyd yn rhan annatod o fod yn fam? Pan fyddwch chi’n gleisiau i gyd, mewn poen neu waeth ar ôl geni, ac yn teimlo bod bywyd wedi troi’n un cylch o fwydo a newid; o ddyddiau unig a nosweithiau diddiwedd? Addasiad o Coping with Birth Trauma and Postnatal Depression.
Mae iselder yn taro cymaint â 3 o bob 10 mam newydd, felly dydych chi ddim ar eich pen eich hun – bwriad y llyfr hwn yw eich helpu i ymdopi â’r teimladau hyn, er mwyn addasu’n hapus a llwyddiannus i fod yn fam. Bydd yn rhoi cyngor ar sut i ddod i delerau â genedigaeth drawmatig ac yn cynnig help i ddeall union natur iselder ôl-enedigol. Fe allwch chi ddysgu i garu eich babi, hyd yn oed os ydych chi’n cael trafferth creu cwlwm, a dod i delerau â’r drefn newydd yn eich teulu a’ch perthynas â’ch partner wrth i chi addasu i fyd gwahanol, newidiadau corfforol a blaenoriaethau newydd.
Dydych chi ddim yn mynd i allu newid cymdeithas a’r disgwyliadau am fod yn fam, sy’n aml mor
afrealistig, ond gyda chymorth y llyfr hwn, fe allwch chi deimlo’n fwy hyderus yn eich rôl
newydd, ac yn eich cariad at eich babi.





Does dim adolygiadau eto.