Y Morfil oedd Eisiau Mwy
£7.99
Addasiad dwyieithog gan Manon Steffan Ros o The Whale Who Wanted More gan Rachel Bright. Stori arbennig am gyfeillgarwch, cymuned a darganfyddiad.
Dan donnau tlws y moroedd mawr mae byd prydferth yn cuddio, Ac yno’n ddwfn o dan y dŵr, roedd cawr mawr clên yn deffro …
Mae Wmffra y morfil ar helfa: i ddod o hyd i’r un gwrthrych perffaith a fydd yn gwneud iddo deimlo’n gyflawn. Mae’n crwydro’r môr, gan gasglu trysorau diddiwedd. Fodd bynnag, ni waeth faint o drysorau y mae’n eu casglu, nid yw Wmffra yn teimlo’n hapus. Ai cyfeillgarwch, nid meddiannau, a fydd yn gwneud i galon Wmffra ganu mewn gwirionedd?
Stori ar odl sy’n annog rhannu a charedigrwydd. Mae’r stori galonogol hon am gyfeillgarwch yn berffaith ar gyfer darllen yn uchel.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dimensiynau | 240 × 300 mm |
---|---|
Age | Under 5 |
Author(s) | |
Format | |
Language | Bilingual |
Pages | |
Publication Date | |
Cyhoeddwr | Atebol |
Illustrator(s) |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.