Coronafeirws a Covid: Llyfr i blant am y pandemig

£0.00

Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws – neu COVID-19 – mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw Covid a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

Cyhoeddwyd y fersiwn cyntaf yn Gymraeg a Saesneg ynghanol y cyfnod clo cyntaf yn 2020, ac mae’r ail fersiwn hwn yn ddiweddariad ar hwnnw ac yn cynnwys deunydd ychwanegol newydd.

Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

  • Beth yw Covid (neu’r coronafeirws)?
  • Sut mae rhywun yn dal Covid?
  • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal Covid?
  • Pam mae pobl yn poeni am ddal Covid?
  • A oes ffordd o wella pobl o Covid?
  • Mae yna frechlyn ar gael, felly beth nesaf?
  • Pam ydyn ni’n treulio mwy o amser gartref?
  • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
  • Beth alli di ei wneud i helpu?
  • Beth arall alla i ei wneud?
  • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

Gellir gweld y llyfr drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

ISBN: 9781801061360 Categories: ,

Efallai y byddwch yn hoffi…