Antarctica: Y Cyfandir Rhyfeddol

£9.99

Dyma dy gyfle i fynd a’r daith i ymweld ag un o’r cyfandiroedd mwyaf rhyfeddol yn y byd – Antarctica … a hynny gydag un o wyddonwyr ifanc Cymru i dy arwain ar y daith.

Cyfle arbennig i ddeall mwy am y tiroedd sy’n amgylchynu Pegwn y De! Dyma un o’r ardaloedd mwyaf garw ac oeraf y byd. Ac eto! Mae cyfoeth o fywyd gwyllt yma! Fe fyddi’n cwrdd â phob math o anifeiliaid rhyfeddol sydd wedi goroesi dan amodau eithafol iawn. Rhyfeddod natur!

Llyfr sy’n addas i ddarllenwyr o bob oed. Mae yma gyfoeth o ffeithiau difyr a lluniau trawiadol. Cyfle gwych i gwrdd â’r anifeiliaid mwyaf rhyfeddol sy’n byw yn un o’r lleoedd mwyaf heriol ar wyneb daear.

Ond, mae pethau’n newid – a hynny’n gyflym iawn! Mae effeithiau cynhesu byd-eang yn newid hinsawdd y cyfandir – a hynny yn ei dro yn effeithio arnom ni yma yng Nghymru. Mae sawl awgrym gan ein gwyddonydd o’r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu ein cymydog pell… Antarctica… y cyfandir rhyfeddol!

Un byd sydd! Un byd rhyfeddol!

Ar gael: 26/02/2026
ISBN: 9781801065351 Categori:

Does dim adolygiadau eto.

Dim ond cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi sydd wedi prynu'r cynnyrch hwn a all adael adolygiad.