Pan fydd angen cynulleidfa ar straeon neu pan fydd angen rhannu syniadau â’r byd, mae Atebol yno i sicrhau bod y cynulleidfaoedd mwyaf posibl yn gallu mwynhau eich cynnwys.
Gwasanaethau Cyhoeddi wedi’u Teilwra sy’n Rhannu Straeon, Syniadau a Dysgu Gafaelgar
Ar y Dudalen.
Ar-lein.
Ar y Sgrin.
Mewn Bywyd Bob Dydd.
Creu Cynnwys i Bawb
Rhaid i gynnwys gyrraedd ei gynulleidfa darged er mwyn iddo fod yn gwbl lwyddiannus. Yn Atebol, rydyn ni’n credu’n gryf na ddylai iaith, anableddau, ethnigrwydd, cefndiroedd cymdeithasol, na’r ffordd rydyn ni’n mwynhau cynnwys fyth fod yn rhwystr i adrodd straeon ac addysg. Mae’r ethos hwn yn rhedeg trwy ein holl wasanaethau.
Gwasanaethau Cyhoeddi
Mae ein tîm cyhoeddi dwyieithog arobryn yn gweithio gydag awduron a chrewyr cynnwys i sicrhau bod eu negeseuon, eu straeon a’u cynnwys addysgol yn gallu cyrraedd y cynulleidfaoedd ehangaf posibl yn gyflym ac yn effeithlon.
Mae Atebol yn gyhoeddwr sy’n cynnig gwasanaeth cyflawn a holl gynhwysfawr. Mae gennym y gallu i gyhoeddi llyfrau a chreu a pharatoi cynnwys gweledol a digidol fel un gwasanaeth cyflawn dan yr ‘un to’. Yn ogystal â chyhoeddi a pharatoi cynnwys rydym a’r gallu i greu deunyddiau amlgyfrwng fel gwefannau, apiau, gemau rhyngweithiol a ffilm. Rydyn ni’n siop un stop – sy’n gwneud bywyd llawer iawn yn haws i bawb!
Amlgyfrwng
Mae’r ffordd y mae pobl yn mwynhau cynnwys yn newid yn gyflym, ac mae dewis yn elfen hollbwysig. Dyna pam y gallwn rannu straeon, adnoddau addysgol a chynnwys difyr trwy wasanaethau datblygu gwefannau ac apiau. Ar y Dudalen. Ar-lein. Ar y Sgrin. Mewn Bywyd Bob Dydd.
Er ein bod yn canolbwyntio’n bennaf ar gemau ac apiau symudol Cymraeg, gall ein rhaglenwyr a’n datblygwyr dwyieithog gyfieithu’r cynhyrchion amlgyfrwng hyn i sawl iaith. Mae ein gwefannau amlieithog yn cynyddu presenoldeb ystod eang o gleientiaid ar-lein – o ddarpar awduron a busnesau preifat i asiantaethau’r llywodraeth ac addysgwyr.
Yn ogystal â bod yn asiantaeth gyhoeddi greadigol yng Nghymru, rydyn ni hefyd yn cynnig y sgiliau technegol hanfodol sydd eu hangen i gynhyrchu ffilmiau ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol. O fideograffeg i olygu yn ystod y broses ôl-gynhyrchu, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein cynnyrch o’r radd flaenaf.
Cyfieithu ac Isdeitlo
Mae ein cyfieithwyr yn cynyddu cyrhaeddiad y cynnwys creadigol rydyn ni’n ei gynhyrchu a’i gyhoeddi trwy ei gyfieithu i sawl iaith a sicrhau ei fod yn gwbl hygyrch i bawb.
Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad, rydyn ni’n gwybod sut i gynyddu cyrhaeddiad cynnwys, gan chwalu’r rhwystrau mwyaf cyffredin i ddysgu ar yr un pryd.
Mae ein harbenigedd yn ein gwasanaethau cyfieithu ac isdeitlo yn cael eu hategu gan wasanaethau golygu, prawfddarllen a lleoleiddio – gan roi un gwasanaeth cyfleus i chi ar gyfer rhannu cynnwys ar draws llwyfannau a sianeli cyfryngau lluosog.
Ein Cleientiaid
Rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau cynhwysfawr, cwbl hyblyg ar gyfer ystod o gleientiaid ledled Cymru, y DU a’r byd. Mae gennym berthynas hirsefydlog gyda sefydliadau fel y GIG, CBAC, S4C, a Llywodraeth Cymru.
















































Dysgwch, Difyrrwch ac Archwiliwch yn Ein Siop Ar-lein
P’un a ydych chi’n fyfyriwr sy’n chwilio am lyfrau addysgol, yn rhiant sy’n chwilio am ffyrdd o wneud dysgu’n hwyl trwy brofiadau dysgu ar sgrin, neu’n rhywun sy’n chwilio am jig-sos unigryw i’w mwynhau fel teulu, mae trysorfa o gynnwys arbennig yn eich disgwyl yn ein siop ar-lein.
Mae gennym nwyddau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog i ddewis ohonynt, felly mae yna rywbeth at ddant pawb.
Gadewch Inni Drafod eich Anghenion
Yr allwedd i’r profiad perffaith o ran cyhoeddi, creu cynnwys, a chyfieithu neu isdeitlo yw sgwrs gychwynnol sy’n galluogi dealltwriaeth glir o’r gofynion. Ein nod yw cydweithio â’r cleient trwy ddull partneriaeth. Cysylltwch â ni heddiw i gychwyn y broses hon.