I Bawb
Rydyn ni’n gyhoeddwyr amlgyfrwng sy’n adrodd straeon ar gyfer pobl, busnesau ac addysgwyr yn Gymraeg, Saesneg ac amrywiaeth o ieithoedd eraill.
Llyfr newydd sbon Sali Mali!
Ar ôl diwrnod hir o blannu, chwynnu, a dyfrio’r blodau yn yr ardd, mae Sali Mali a Jac Do wedi blino’n lan! Mae’r ddau yn dychwelyd i’r tŷ i baratoi at amser gwely. Ar ôl ymolchi a bwyta swper, mae Sali Mali a Jac Do yn barod i gysgu. Dim ond un broblem sydd… mae Jac Do methu cysgu!
Dyma lyfr cyntaf cyfres newydd sbon ‘Sali Mali’ i blant 0-5 oed.
Ein Siop
Ewch i’r Siop Ar-lein Heddiw
P’un a ydych chi’n chwilio am lyfrau addysgol i blant, profiadau dysgu ar y sgrin, gêm neu jig-so i’w mwynhau, fe welwch amrywiaeth eang o ddewisiadau yn ein siop ar-lein.
Crewyr Cynnwys Blaengar
Gan weithio o’n swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd, rydyn ni’n creu ac yn cyhoeddi cynnwys sy’n cyfoethogi, yn addysgu ac yn gwneud dysgu’n hwyl.
Brwdfrydedd dros ein Gwaith
Rydyn ni’n frwdfrydig dros ddysgu amlieithog ac ysbrydoli pobl i ehangu eu gorwelion, ac yn cyhoeddi gwaith awduron ac arlunwyr arbennig er mwyn cyflawni hynny.
Rydyn ni hefyd yn helpu sefydliadau i adrodd eu straeon ar draws pedair prif sianel.
Ar y Dudalen
Mae ein tîm cyhoeddi a chyfieithu ymroddedig wedi ennill gwobrau ac yn cyhoeddi 60 o lyfrau’r flwyddyn ar gyfartaledd ac yn cyfieithu mwy na 12 miliwn o eiriau – mewn sawl iaith.
O wasanaethau cyhoeddi wedi’u teilwra i ddylunio graffig, mae ein teulu arobryn yn creu cynnwys sy’n cael effaith gadarnhaol ledled y byd.
Online
The websites, apps, and online games we produce speak to a global community, and the work our content managers and translators do ensures stories and messages are shared in Welsh, English, and a range of other languages.
We help our clients share their stories with their target audiences through our customised web publishing services.
On Screen
Whether we’re providing subtitles for S4C or producing valuable TV content, we always aim to tell life stories that are as accessible as they are informative.
Ensure your stories reach and resonate with all your audiences by allowing the Atebol team to produce, transcribe, and subtitle all your content across multiple media channels.
In Life
Children, adults, and educators rely on us to educate and inspire through the creation and publishing of books, games, and digital resources.
We are Welsh publishers who are proud to spread inspirational stories and content – in homes, offices, classrooms, and anywhere people look for learning, inspiration, and enjoyment.
We enable accessibility of content to all through our various accessibility services.
Mae ein hargraffnodau cyhoeddi dwyieithog arobryn yn sicrhau bod gwaith awduron blaenllaw neu awduron talentog newydd yn cyrraedd ei gynulleidfaoedd, yn addysgu, yn ysbrydoli, ac yn ysgogi sgyrsiau.
O gemau ac apiau ar gyfer dyfeisiau symudol i wefannau a ffilmiau, mae ein tîm amlgyfrwng yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod creadigrwydd bob amser yn cael y cyfle i ffynnu ar-lein.
Rydyn ni’n frwdfrydig dros ddarparu ansawdd, cywirdeb, a chysondeb – ar draws ein holl wasanaethau cyfieithu, isdeitlo, a golygu.
Pam Atebol?
Mae’r cynnwys rydyn ni’n ei greu yn agor drysau i brofiadau newydd, cyfleoedd dysgu, a thwf personol. Pan fyddwch yn dewis Atebol i rannu eich straeon, byddwch yn profi ein harbenigedd ym mhob maes.
Teulu
Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i wireddu breuddwydion crewyr cynnwys.
Brwdfrydedd dros Greadigrwydd
Mae gan greadigrwydd y pŵer i newid y byd.
Gwneud Dysgu’n Hwyl
Ein nod yw gwneud dysgu’n hwyl ac yn ddiddorol.
Craff
Yr arbenigedd a’r profiad sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus wrth gyhoeddi.
Ardystiad sy’n Brawf o’n Rhagoriaeth
Arbenigedd a ategir gan achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Sicrwydd o ran Cywirdeb
Ymagwedd dechnolegol tuag at gywirdeb ac ansawdd.











