Rydyn ni’n llawer mwy na chwmni cyhoeddi yng Nghymru – rydyn ni’n deulu o storïwyr sy’n frwdfrydig dros addysgu ac ysbrydoli pobl.
Ein Stori
Dros y Degawdau
Ers i ni agor ein lleoliad cyntaf yn Aberystwyth yn ôl yn 2003, rydyn ni wedi gweithio’n ddiwyd i helpu crewyr cynnwys rannu eu straeon â’r byd.
Gweithgareddau ac Addysg i Bawb
Ers y cychwyn cyntaf, un o egwyddorion craidd ein cenhadaeth yw rhoi cyfle i bawb fwynhau straeon ysbrydoledig, adnoddau addysg, a gweithgareddau difyr – waeth beth yw eu cenedligrwydd, eu hiaith gyntaf, eu cefndir cymdeithasol neu eu galluoedd.
Dros y blynyddoedd, mae ein tŷ cyhoeddi wedi tyfu o fod yn llond llaw o bobl i fwy na 45. Erbyn hyn, mae gennym swyddfeydd yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd hefyd, ac mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn uchelgeisiol ac yn eang.
Dros Ddau Ddegawd o Gyhoeddi
Dechreuon ni drwy greu a chyhoeddi deunyddiau addysgol i gefnogi addysg yng Nghymru. Er ein bod wedi cyflwyno cryn dipyn yn fwy o amrywiaeth i’n harlwy dros y ddau ddegawd diwethaf, mae agor drysau ar gyfer addysg ymhob maes i bawb yn parhau wrth galon ein gwaith.
Gyda’n dyhead cryf i gefnogi’r Gymraeg a gwneud cynnwys yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen, rydyn ni bellach yn creu ac yn cyhoeddi gemau, apiau, ffilmiau, a llyfrau ar nifer o blatfformau a sianeli gwahanol.
Rydyn ni wedi gweld pa mor bwerus yw cynnwys… sut y gall siapio meddyliau, ein hysbrydoli i ddysgu a’n cymell ymhellach. Dyma sy’n ysgogi ein tîm i barhau i chwilio am y cynnwys gorau yng Nghymru i’w rannu â’r cynulleidfaoedd a fydd yn ei werthfawrogi.
Ein Cymwysterau
Mae Safon yn Hollbwysig i Ni
Mae creu cynnwys o’r safon uchaf yn bwysig iawn i ni yma yn Atebol. Mae ein llyfrau, ein cynyrchiadau a’n prosiectau cyfieithu yn enghraifft o’n hymrwymiad i safon, ac mae gennym achrediadau ac ardystiadau amrywiol sy’n brawf o’r ymroddiad diwyro hwn i ragoriaeth.
Yn ogystal, mae pawb yn Atebol wedi ymrwymo’n llwyr i gynnal Safonau’r Gymraeg, cyfreithiau diogelu data a’n cyfrifoldebau mewn perthynas â deddfwriaeth iechyd a diogelwch. Rydyn ni’n sefydliad sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac sy’n ymfalchïo mewn creu amgylchedd diogel, cynhwysol ac amrywiol lle mae gan bawb lais.
-
Achrediad ISO9001 – System Rheoli Ansawdd
-
Achrediad Amgylcheddol a Chynaliadwyedd y Ddraig Werdd
-
Cwmni Hyderus o ran Anabledd
-
Cwmni Cydnabyddedig gyda Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru
-
Achrediad Cyber Essentials Plus
-
Aelod o’r Ffederasiwn Busnesau Bach
Ein Gweledigaeth
Helpu Pawb i Adrodd eu Stori
Eich Cysylltu Chi â’ch Cynulleidfa
Rydyn ni’n credu fod gan bawb stori i’w hadrodd – boed hynny drwy lyfr, ffilm, neu’n ddigidol. O ddatblygu apiau yng Nghaerdydd i gyhoeddi llyfrau yn Aberystwyth, rydyn ni bob amser yn ymdrechu i gysylltu ein cydweithwyr â’u cynulleidfaoedd naturiol.
Yn rhinwedd ein rôl fel asiantaeth gyfieithu yng Nghymru, rydyn ni’n ymfalchïo mewn cynyddu’r cynulleidfaoedd posibl ar gyfer y cynnwys rydyn ni’n ei gyhoeddi a’i greu. Rydyn ni’n credu mewn cymdeithas lle mae gan bawb fynediad at wybodaeth a straeon ysbrydoledig, waeth beth yw eu diddordeb, eu cefndir neu eu sgiliau iaith.