I Bawb
Rydyn ni’n gyhoeddwyr amlgyfrwng sy’n adrodd straeon ar gyfer pobl, busnesau ac addysgwyr yn Gymraeg, Saesneg ac amrywiaeth o ieithoedd eraill.
Llyfr cyntaf Ian H Watkins!
Ymunwch â’r Rainbow Warriors wrth iddynt addysgu darllenwyr am ddiffiniad, hanes a phwysigrwydd Pride a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r gymuned LHDT+.
Ein Siop
Ewch i’r Siop Ar-lein Heddiw
P’un a ydych chi’n chwilio am lyfrau addysgol i blant, profiadau dysgu ar y sgrin, gêm neu jig-so i’w mwynhau, fe welwch amrywiaeth eang o ddewisiadau yn ein siop ar-lein.
Crewyr Cynnwys Blaengar
Gan weithio o’n swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd, rydyn ni’n creu ac yn cyhoeddi cynnwys sy’n cyfoethogi, yn addysgu ac yn gwneud dysgu’n hwyl.
Ein Hangerdd
Rydyn ni’n frwdfrydig dros ddysgu amlieithog ac ysbrydoli pobl i ehangu eu gorwelion, ac yn cyhoeddi gwaith awduron ac arlunwyr arbennig er mwyn cyflawni hynny.
Rydyn ni hefyd yn helpu sefydliadau i adrodd eu straeon ar draws pedair prif sianel.
Ar y dudalen
Mae ein tîm cyhoeddi a chyfieithu ymroddedig, sydd wedi ennill gwobrau, yn cyhoeddi 60 o lyfrau’r flwyddyn ar gyfartaledd ac yn cyfieithu mwy na 12 miliwn o eiriau – mewn sawl iaith.
O wasanaethau cyhoeddi wedi’u teilwra i ddylunio graffig, mae ein teulu arobryn yn creu cynnwys sy’n cael effaith gadarnhaol ledled y byd.
Ar-lein
Mae’r gwefannau, yr apiau a’r gemau ar-lein a gynhyrchwn yn siarad â chymuned fyd-eang, ac mae’r gwaith y mae ein rheolwyr cynnwys a’n cyfieithwyr yn ei wneud yn sicrhau bod straeon a negeseuon yn cael eu rhannu yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn amrywiaeth o ieithoedd eraill.
Rydyn ni’n helpu ein cleientiaid i rannu eu straeon gyda’u cynulleidfaoedd targed trwy ein gwasanaethau cyhoeddi gwe y gellir eu teilwra ar gyfer pob achos unigol.
Ar y Sgrin
P’un a ydyn ni’n darparu isdeitlau ar gyfer S4C neu’n cynhyrchu cynnwys teledu gwerthfawr, ein nod bob amser yw adrodd straeon bywyd sy’n hygyrch ac yn addysgiadol.
Sicrhewch fod eich straeon yn cyrraedd ac yn cyffroi eich holl gynulleidfaoedd trwy ganiatáu i dîm Atebol gynhyrchu, trawsgrifio, ac isdeitlo’ch holl gynnwys ar draws sawl sianel cyfryngau.
Mewn Bywyd Bob Dydd
Mae plant, oedolion ac addysgwyr yn dibynnu arnon ni i addysgu ac ysbrydoli drwy greu a chyhoeddi llyfrau, gemau ac adnoddau digidol.
Rydyn ni’n gyhoeddwyr Cymreig sy’n falch o rannu straeon a chynnwys ysbrydoledig – mewn cartrefi, swyddfeydd, ystafelloedd dosbarth, ac unrhyw le lle mae pobl am ddysgu, cael eu hysbrydoli, a mwynhau.
Rydyn ni’n sicrhau bod cynnwys yn hygyrch i bawb trwy ein gwasanaethau hygyrchedd amrywiol.
Mae ein hargraffnodau cyhoeddi dwyieithog arobryn yn sicrhau bod gwaith awduron blaenllaw neu awduron talentog newydd yn cyrraedd ei gynulleidfaoedd, yn addysgu, yn ysbrydoli, ac yn ysgogi sgyrsiau.
O gemau ac apiau ar gyfer dyfeisiau symudol i wefannau a ffilmiau, mae ein tîm amlgyfrwng yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod creadigrwydd bob amser yn cael y cyfle i ffynnu ar-lein.
Rydyn ni’n frwdfrydig dros sicrhau ansawdd, cywirdeb, a chysondeb – ar draws ein holl wasanaethau cyfieithu, isdeitlo, a golygu.
Pam Atebol?
Mae’r cynnwys rydyn ni’n ei greu yn agor drysau i brofiadau newydd, cyfleoedd dysgu, a thwf personol. Pan fyddwch yn dewis Atebol i rannu eich straeon, byddwch yn profi ein harbenigedd ym mhob maes.
Teulu
Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i wireddu breuddwydion crewyr cynnwys.
Brwdfrydedd dros Greadigrwydd
Mae gan greadigrwydd y pŵer i newid y byd.
Gwneud Dysgu’n Hwyl
Ein nod yw gwneud dysgu’n hwyl ac yn ddiddorol.
Craff
Yr arbenigedd a’r profiad sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus wrth gyhoeddi.
Tystiolaeth o’n Rhagoriaeth
Arbenigedd wedi’i ategu gan achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Sicrwydd o Gywirdeb
Dulliau technolegol o sicrhau cywirdeb ac ansawdd.