Skip to main content

Crewyr Cynnwys Amlgyfrwng

sy’n frwdfrydig dros gyfoethogi bywydau

Cysylltwch!

I Bawb

Rydyn ni’n gyhoeddwyr amlgyfrwng sy’n adrodd straeon ar gyfer pobl, busnesau ac addysgwyr yn Gymraeg, Saesneg ac amrywiaeth o ieithoedd eraill.

Ar y Dudalen.

Ar-lein.

Ar y Sgrin.

Mewn Bywyd Bob Dydd.

Llyfr cyntaf Ian H Watkins!

Ymunwch â’r Rainbow Warriors wrth iddynt addysgu darllenwyr am ddiffiniad, hanes a phwysigrwydd Pride a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r gymuned LHDT+.

Ein Siop

Ewch i’r Siop Ar-lein Heddiw

P’un a ydych chi’n chwilio am lyfrau addysgol i blant, profiadau dysgu ar y sgrin, gêm neu jig-so i’w mwynhau, fe welwch amrywiaeth eang o ddewisiadau yn ein siop ar-lein.

Amdanom ni

Crewyr Cynnwys Blaengar

Gan weithio o’n swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd, rydyn ni’n creu ac yn cyhoeddi cynnwys sy’n cyfoethogi, yn addysgu ac yn gwneud dysgu’n hwyl.

Ein Hangerdd

Rydyn ni’n frwdfrydig dros ddysgu amlieithog ac ysbrydoli pobl i ehangu eu gorwelion, ac yn cyhoeddi gwaith awduron ac arlunwyr arbennig er mwyn cyflawni hynny.

Rydyn ni hefyd yn helpu sefydliadau i adrodd eu straeon ar draws pedair prif sianel.

Ar y dudalen

Mae ein tîm cyhoeddi a chyfieithu ymroddedig, sydd wedi ennill gwobrau, yn cyhoeddi 60 o lyfrau’r flwyddyn ar gyfartaledd ac yn cyfieithu mwy na 12 miliwn o eiriau – mewn sawl iaith.

O wasanaethau cyhoeddi wedi’u teilwra i ddylunio graffig, mae ein teulu arobryn yn creu cynnwys sy’n cael effaith gadarnhaol ledled y byd.

Ar-lein

Mae’r gwefannau, yr apiau a’r gemau ar-lein a gynhyrchwn yn siarad â chymuned fyd-eang, ac mae’r gwaith y mae ein rheolwyr cynnwys a’n cyfieithwyr yn ei wneud yn sicrhau bod straeon a negeseuon yn cael eu rhannu yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn amrywiaeth o ieithoedd eraill.

Rydyn ni’n helpu ein cleientiaid i rannu eu straeon gyda’u cynulleidfaoedd targed trwy ein gwasanaethau cyhoeddi gwe y gellir eu teilwra ar gyfer pob achos unigol.

Ar y Sgrin

P’un a ydyn ni’n darparu isdeitlau ar gyfer S4C neu’n cynhyrchu cynnwys teledu gwerthfawr, ein nod bob amser yw adrodd straeon bywyd sy’n hygyrch ac yn addysgiadol.

Sicrhewch fod eich straeon yn cyrraedd ac yn cyffroi eich holl gynulleidfaoedd trwy ganiatáu i dîm Atebol gynhyrchu, trawsgrifio, ac isdeitlo’ch holl gynnwys ar draws sawl sianel cyfryngau.

Mewn Bywyd Bob Dydd

Mae plant, oedolion ac addysgwyr yn dibynnu arnon ni i addysgu ac ysbrydoli drwy greu a chyhoeddi llyfrau, gemau ac adnoddau digidol.

Rydyn ni’n gyhoeddwyr Cymreig sy’n falch o rannu straeon a chynnwys ysbrydoledig – mewn cartrefi, swyddfeydd, ystafelloedd dosbarth, ac unrhyw le lle mae pobl am ddysgu, cael eu hysbrydoli, a mwynhau.

Rydyn ni’n sicrhau bod cynnwys yn hygyrch i bawb trwy ein gwasanaethau hygyrchedd amrywiol.

Gwasanaethau

Ein Gwasanaethau Cynnwys Craidd

Cyhoeddi

Mae ein hargraffnodau cyhoeddi dwyieithog arobryn yn sicrhau bod gwaith awduron blaenllaw neu awduron talentog newydd yn cyrraedd ei gynulleidfaoedd, yn addysgu, yn ysbrydoli, ac yn ysgogi sgyrsiau.

Cyfryngau

O gemau ac apiau ar gyfer dyfeisiau symudol i wefannau a ffilmiau, mae ein tîm amlgyfrwng yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod creadigrwydd bob amser yn cael y cyfle i ffynnu ar-lein.

Cyfieithu ac Isdeitlo

Rydyn ni’n frwdfrydig dros sicrhau ansawdd, cywirdeb, a chysondeb – ar draws ein holl wasanaethau cyfieithu, isdeitlo, a golygu.

Dweud Eich Stori Chi, Gyda Ni

Cysylltwch!

Ein Brandiau

Brandiau Ein Cwmni

Rydyn ni’n cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau i oedolion dan y brand Sebra.

Mae’r llyfrau rydyn ni’n eu cyhoeddi dan y brand Sebra yn diddanu, yn herio, ac yn cyflwyno safbwynt ffres, modern sy’n berthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r streipiau ar gorff pob sebra yn unigryw. Ein nod yw dod â rhywbeth newydd i ddarllenwyr a fydd yn eu hannog i ddod o hyd i’r annisgwyl gyda ni.

Brand cyfieithu, sain ac isdeitlo proffesiynol sydd hefyd yn darparu gwasanaethau golygu a phrawfddarllen. Mae’r tîm yn cynnwys cyfieithwyr a thrawsgrifwyr proffesiynol sy’n sicrhau cywair addas a lefel briodol o ran iaith ar gyfer y gynulleidfa darged.

Brand sy’n ymroddedig i addysg a dysgu. Mae adnoddau CAA Cymru yn cynnwys cyfresi darllen poblogaidd fel Moli a Meg, nofelau i arddegwyr a mwy. Gallwch ddod o hyd i gynhyrchion CAA Cymru yn ein siop ar-lein.

Rydyn ni’n cyflwyno cynnwys teledu gafaelgar a blaengar, gan gysylltu cynulleidfaoedd trwy straeon sy’n ysbrydoli, yn difyrru ac yn addysgu.

Ein Harbenigedd

Pam Atebol?

Mae’r cynnwys rydyn ni’n ei greu yn agor drysau i brofiadau newydd, cyfleoedd dysgu, a thwf personol. Pan fyddwch yn dewis Atebol i rannu eich straeon, byddwch yn profi ein harbenigedd ym mhob maes.

Teulu

Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i wireddu breuddwydion crewyr cynnwys.

Brwdfrydedd dros Greadigrwydd

Mae gan greadigrwydd y pŵer i newid y byd.

Gwneud Dysgu’n Hwyl

Ein nod yw gwneud dysgu’n hwyl ac yn ddiddorol.

Craff

Yr arbenigedd a’r profiad sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus wrth gyhoeddi.

Tystiolaeth o’n Rhagoriaeth

Arbenigedd wedi’i ategu gan achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Sicrwydd o Gywirdeb

Dulliau technolegol o sicrhau cywirdeb ac ansawdd.

Ydych chi’n barod i rannu eich straeon gydag un o’r cyhoeddwyr amlgyfrwng uchaf eu parch yng Nghymru?

Cysylltwch â ni i drefnu sgwrs

Cysylltwch!