Pwerau hud, rapio, ‘hashtags’, ffonau symudol, gemau, hunluniau, anifeiliaid anwes hoffus a chacennau! Nid oes amheuaeth bod darllenydd newyddion y BBC a’r Cyflwynydd Teledu Lucy Owen yn gwybod beth mae plant heddiw yn ei fwynhau! Gellir dod o hyd i’r rhain i gyd a mwy yn ‘Flower Girl’, ei llyfr newydd i blant.
Mae’r stori’n dechrau gyda Flora, dynes sy’n ysu am blentyn ei hun. Daw ei dymuniad yn wir wrth iddi gael ei bendithio â merch o’r enw Cherry – y Flower Girl, yn ddiniwed ac yn gariadus ac wedi’i gwneud o betalau pinc hardd y goeden geirios. Ysbrydolwyd stori Flora gan daith lwyddiannus Lucy ei hun gydag IVF, a arweiniodd at ei breuddwyd hi a’i gwr o gael plentyn;
“Rwy’n gweld bod pethau sydd wedi cael effaith ddofn arnaf, rywsut fel petaent yn ffeindio eu ffordd i mewn i fy ysgrifennu. Wedi bod eisiau plant erioed, roedd yn anodd iawn wynebu’r posibilrwydd o fethu â’u cael. Diolch i feddygon rhyfeddol, ganed Gabriel ein mab. Rydw i wedi cyflwyno’r llyfr yma iddyn nhw ac i’r rhai sy’n mynd trwy frwydr i ddod yn rhieni. ”
Pwnc pwysig arall sy’n cael sylw yn y llyfr yw Parlys yr Ymennydd, sydd hefyd yn agos iawn at galon Lucy;
“Rwy’n teimlo mor ffodus i fod yn gysylltiedig â nifer o elusennau, gan gynnwys Cerebal Palsy Cymru. Mae gan un o fy hoff gymeriadau yn y llyfr, Ruth, ffurf ysgafn o’r cyflwr. Yng nghefn y llyfr mae rhestr o ffeithiau. Roeddwn mor falch o allu cynnwys gwybodaeth am Barlys yr Ymennydd i helpu darllenwyr ifanc i ddysgu am y cyflwr a’i ddeall. ”
Cael eich tynnu i mewn i’r criw ffrindiau anghywir, ceisio plesio pawb, anwybyddu cyngor cadarn ein rhieni, cael ein bwlio yn yr ysgol, delio ag athrawon anodd a pheidio ag anghofio rôl anifeiliaid anwes ciwt fel Bud, pili pala doniol Cherry! Bydd merched a bechgyn ifanc yn gallu uniaethu â’r stori. Mae’n sicr o ddod ag ychydig o atgofion plentyndod yn ôl i rieni hefyd!
Fel Mam, mae Lucy’n gwybod bod ceisio llusgo ein plant i ffwrdd o sgriniau a dyfeisiau yn frwydr gyson! Roedd hi’n awyddus i ddefnyddio’r llyfr i annog plant i fynd allan i’r awyr agored a bod yn greadigol;
“Mae Flower Girl yn ddathliad o fywyd a harddwch natur. Rwy’n mawr obeithio y bydd yn ysbrydoli plant i roi cynnig ar dyfu rhywbeth hefyd. Does dim angen gardd fawr arnynt, gallai fod yn flodyn haul mewn pot neu berlysiau ar gyfer coginio. Mae plant wrth eu boddau yn darllen am beth mae’r cymeriadau’n ei fwyta ac yn y llyfr hwn rydyn ni’n gweld Flora yn gwneud danteithion blasus o gynnyrch ei gardd. Dwi wedi cynnwys ryseitiau yng nghefn y llyfr – fel y gall plant a rhieni gael hwyl yn gwneud a mwynhau’r un bwyd â’r cymeriadau! Dwi wrth fy modd pan allwch chi ddod o hyd i ffyrdd o ddod â llyfr yn fyw! ”
Mae’r llyfr wedi’i ddarlunio gan fam i ddau o blant, Rebecca Harry. Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, roedd Rebecca wrth ei bodd â chelf a darlunio ers iddi fod yn ifanc iawn. Mae hi wedi darlunio llawer o lyfrau plant poblogaidd yn y DU, China, UDA a thu hwnt. Mae hi wedi mwynhau gweithio gyda Lucy a’r cyhoeddwyr Atebol yn fawr ar y llyfr newydd hwn;
“Roedd yn hyfryd cydweithio gyda Lucy ac Atebol. Mae ‘Flower Girl’ yn llyfr mor hudolus, roedd yn bleser dod â Cherry y prif gymeriad yn fyw trwy fy ngwaith. Mae’n llyfr arbennig iawn”.
Mae Atebol yn falch iawn o fod yn cyhoeddi ‘Flower Girl’ ac yn edrych ymlaen at ei rannu gyda darllenwyr ifanc;
“Mae Flower Girl yn ddathliad hyfryd o gyfeillgarwch a natur. Mae gan y stori ysbrydoledig a chynnes hon ddigon o ddisgleirdeb a’r holl gynhwysion cywir ar gyfer stori dylwyth teg fodern. Mae llais Lucy’n byrlymu â chynhesrwydd a hiwmor ac mae hi’n llwyddo i gyfuno eiliadau ingol sy’n procio’r meddwl gyda’r lefel perffaith o hud a lledrith. Mae lluniau hudolus Rebecca yn fendigedig ac yn ffurfio’r bartneriaeth ddelfrydol. Mae’r naratif syml, hawdd i’w ddarllen, ei bŵer dychmygus a’i allu i ennyn amrywiaeth o emosiynau yn sicr o swyno ac atseinio gyda darllenwyr ifanc. Mae Lucy yn un o’r bobl fwyaf creadigol ac ysbrydoledig i mi gael y pleser o’i chyhoeddi ac mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda hi. ” Rachel Lloyd, Golygydd Creadigol a Phennaeth Cyhoeddi Atebol.
Bydd Flower Girl yn cael ei ryddhau gan Atebol ar y 18 Mai. Mae’r llyfr yn addas ar gyfer darllenwyr 6 + oed. Ar gael yn eich siopau llyfrau lleol, ar Amazon ac yn uniongyrchol gan y cyhoeddwyr ar <www.atebol.com>.
-Diwedd –
Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Heulwen Davies ar post@llais.cymru / 07817591930.