Dim ond cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi sydd wedi prynu'r cynnyrch hwn a all adael adolygiad.
Y Fam Newydd Ofalgar: Gofalu am dy Gorff a dy Feddwl fel Mam drwy’r Cyfnodau Llon a Lleddf
£9.99
O’r enedigaeth i gamau cyntaf babi, mae’r llyfr cefnogol hwn yn cynnig dulliau myfyrio a delweddu diogel, ioga ôl-enedigol, meddyginiaethau naturiol, canllawiau maethol a thechnegau tylino babi er mwyn helpu i addasu i dy rôl newydd. Addasiad o Mindful New Mum: A Mind-Body Approach to the Highs and Lows of Motherhood.
Fe fydd syniadau seicolegol tosturiol, seiliedig ar dystiolaeth, yn dy gefnogi fel mam newydd, gan dy helpu i sefydlogi ac ymdopi ag emosiynau anodd yng nghanol y stormydd a’r pwysau i fagu plant yn ddi-fai.
Hyd yn oed ar ddyddiau sy’n dilyn nosweithiau di-gwsg, fe fydd yr ymarferion lliniarol ac ymarferol hyn yn dy dywys at dawelwch mewnol. Bydd cysylltu â dy feddwl, dy gorff a dy werthoedd personol yn rhoi cyfle i ti wrando ar dy reddf a dod yn fwy hyderus a phresennol gyda’r babi.
Mae Dr Caroline Boyd yn fam ei hun, ac yn seicolegydd clinigol gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn y GIG a lleoliadau iechyd meddwl. Mae’n cofleidio agwedd gyfannol at les ac yn arbenigwraig ar gefnogi rhieni newydd drwy’r beichiogrwydd i’r geni a phob agwedd ar y pontio.





Does dim adolygiadau eto.