Trio ac Antur yr Eisteddfod

£7.99

Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.

Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur… mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.

Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!

In stock

ISBN: 9781913245238 Categories: , ,

Yr Awdur - Manon Steffan Ros
Mae Manon yn awdur ac yn ddramodydd sydd wedi ennill llu o wobrau am ei gwaith. Enillodd y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol yn 2005 a 2006 ac enillodd Wobr Tir Na n-Og yn 2010 ac yn 2012. Cafodd ei henwi’n Brif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi iddi gipio’r Fedal Ryddiaith, ac ym mis Mai 2019 fe gyhoeddwyd fod ei nofel Fi a Joe Allen wedi ennill categori Uwchradd Gwobr Tir na n-Og. Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Llyfr Glas Nebo gan Manon oedd Llyfr y Flwyddyn 2019.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dimensiynau148 × 210 mm
Age

Ages 12+, Ages 7-9, Ages 8 – 11, Under 7

Language

Welsh

Cyhoeddwr

Atebol

Adolygiadau

Nid oes unrhyw adolygiadau eto.

Byddwch y cyntaf i adolygu "Trio ac Antur yr Eisteddfod"