Dim ond cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi sydd wedi prynu'r cynnyrch hwn a all adael adolygiad.
- We detected that you are trying to add a pre-order product in your cart. Please remove the rest of the products before proceeding.
Sut i Ddofi Corryn
£9.99
Fel y pry cop sy’n llechu ar glawr y llyfr, gall Sut i Ddofi Corryn wehyddu gwe gymhleth i swyno darllenydd yn llwyr.
Jon Gower, Nation.Cymru
Stori Muriel sydd yma, a’i thaith arwrol i geisio cael gwellhad i’w gŵr, Ken. Maen nhw’n bâr priod yn eu pedwardegau pan gaiff Ken wybod ei fod yn marw o ganser. Ond dechrau’r daith yw’r Muriel ifanc, tair ar ddeg oed, pan ddaw hi o hyd i’r llyfr hynafol, Llyfr Corynnod y Mwmbwls…
Bydd y nofel hon yn mynd â chi ar daith anturus wrth i Muriel geisio dod o hyd i atebion. Ond mae rhaid iddi wynebu ei phryderon a’i hofnau mwyaf yn gyntaf, ac i wneud hynny, mae’n rhaid iddi dorri’n rhydd oddi wrth y gweoedd hynny sy’n ei chlymu’n saff.
333 in stock
Does dim adolygiadau eto.