Hwyr i’r parti

£9.99

Merch ifanc o Gwm Rhondda yw Catrin sy’n penderfynu dysgu Cymraeg. Ond er ei bod hi’n mwynhau’r cwrs, mae hi’n dal i deimlo ar y cyrion pan mae hi’n treulio amser gyda Chymry Cymraeg iaith Gyntaf. Gyda chymorth Elin, y ferch newydd sy’n symud i fyw i’r tŷ mae’n ei rannu, daw i ddysgu mwy am hynodrwydd y byd Cymraeg mewn lansiad llyfrau (o leiaf mae’r gwin am ddim) a thwmpath dawns (llawn athrawon golygus). Maen nhw hyd yn oed yn llwyddo i roi tipyn o agoriad llygad i Liam, Biggsy a Lauren, eu cydletywyr yn y tŷ wrth iddyn nhw i gyd fynd am drip i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Nofel ffres, llawn hiwmor sy’n taflu goleuni newydd ar y profiad o fod yn ddysgwr. Dyma nofel gyntaf y diweddar Dr Nerys Rees Bowen o Gwmparc ger Treorci.

Ar gael: 17/03/2026
ISBN: 9781835390313 Categori: Brand:

Does dim adolygiadau eto.

Dim ond cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi sydd wedi prynu'r cynnyrch hwn a all adael adolygiad.