Gwreiddio

£8.99

Casgliad o wyth stori fer sy’n mynd i’r afael â gwahanol agweddau o fyw yng nghefn gwlad Cymru yn yr oes sydd ohoni yw’r gyfrol hon. Lleolir pob stori mewn cymuned wledig, amaethyddol, wrth i’r cymeriadau wynebu pob math o heriau – unigrwydd, colli tir ac etifeddiaeth, y tyndra rhwng yr hen ffordd o fyw a’r angen i symud ymlaen ac arallgyfeirio. Awduron y straeon byrion yw Bethan Gwanas, Elen Davies, Geraint Lewis, Haf Llewelyn, Heiddwen Tomos, John Roberts, Llŷr Titus a Megan Elenid Lewis. O ferch ifanc sy’n dychwelyd adre i helpu adeg wyna, i wraig ddiymhongar a gweithgar sydd newydd golli ei gŵr, cawn bortreadau cofiadwy o gymeriadau sy’n greiddiol i’n cymunedau amaethyddol ni.

Language Icon

Iaith

Pages Icon

Tudalennau

120

33 in stock

ISBN: 9781835390016 Categori: Brand:

Description

Casgliad o wyth stori fer sy’n mynd i’r afael â gwahanol agweddau o fyw yng nghefn gwlad Cymru yn yr oes sydd ohoni yw’r gyfrol hon. Lleolir pob stori mewn cymuned wledig, amaethyddol, wrth i’r cymeriadau wynebu pob math o heriau – unigrwydd, colli tir ac etifeddiaeth, y tyndra rhwng yr hen ffordd o fyw a’r angen i symud ymlaen ac arallgyfeirio.

Awduron y straeon byrion yw Bethan Gwanas, Elen Davies, Geraint Lewis, Haf Llewelyn, Heiddwen Tomos, John Roberts, Llŷr Titus a Megan Elenid Lewis. O ferch ifanc sy’n dychwelyd adre i helpu adeg wyna, i wraig ddiymhongar a gweithgar sydd newydd golli ei gŵr, cawn bortreadau cofiadwy o gymeriadau sy’n greiddiol i’n cymunedau amaethyddol ni.

Does dim adolygiadau eto.

Dim ond cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi sydd wedi prynu'r cynnyrch hwn a all adael adolygiad.