Gweithgareddau i gyd-fynd â’r gyfrol o straeon Fesul Darn

Mae’r casgliad yma wedi cael ei greu fel rhan o brosiect Llwyddo’n Lleol. Un o brosiectau rhaglen ARFOR yw Llwyddo’n Lleol 2050. Mae allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd. Nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael, neu sydd eisoes wedi gadael, fod modd cael dyfodol disglair, a swydd dda mewn maes cyffrous, yn eu cymunedau cynhenid. Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei weinyddu ar y cyd gan Mentera a Menter Môn.

Mae rhaglen ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Lawrlwythwch eich copi yma: Gweithgareddau i gyd-fynd â’r gyfrol o straeon Fesul Darn

ISBN: 100143 Category: