Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor
£6.99
Llyfr stori-a-llun gwreiddiol, sy’n archwilio dyheadau a’r dychymyg. Ar bob tudalen mae’r prif gymeriad yn cwestiynu sut brofiad fyddai bod yn wahanol bethau fel deinosor, pengwin, crocodeil… ond yn fuan mae’n sylweddoli ei fod yn unigryw ac nad oes unrhyw un arall yn debyg iddo. Sy’n anhygoel o arbennig!
Dyma stori ddoniol, wedi ei hadrodd yn syml gyda thro bach annisgwyl ar y diwedd!
Dwi eisiau bod yn ddeinosor
Ond dwi fymryn yn rhy fach.
Dwi eisiau bod yn sombi hyll
Ond mae gen i groen reit iach.
Dwi eisiau bod yn seren bop
Ond does gen i ddim y ddawn.
Dwi eisiau bod yn ninja slei
Ond dwi ddim yn gyfrwys iawn.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.