Dim ond cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi sydd wedi prynu'r cynnyrch hwn a all adael adolygiad.
Chwedlau’r Ddraig: Cwm y Wrach
£6.99
Daw hen chwedl yn fyw yn y stori antur fodern hon. Lleolir y nofel ger Aberaeron a dilynwn Daisy, merch 11 oed, a’i theulu ar ôl iddynt symud o’r gogledd i redeg ganolfan arddio yn yr ardal.
Un diwrnod, mae Daisy yn benthyg llyfr chwedlau eithaf cyffredin ei olwg o’r Ffair Lyfrau flynyddol yn yr ysgol. Nid oes ganddi fawr o obaith am y llyfr anniddorol, nes iddi gael ei thaflu oddi ar ei beic ar ei thaith adref o’r ysgol… dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd! Wrth ddychwelyd adref, yn dilyn ei gwrthdrawiad ar y beic, mae Daisy yn argyhoeddedig ei bod wedi cwrdd â Mari Perllan Pedr, gwrach o chwedl leol adnabyddus. Ond sut y gall hynny fod yn bosib?
Dilynwch antur ddirgel Daisy wrth iddi geisio darganfod y gwir a chesio achub busnes ei theulu yn Arthen Fach ar yr un pryd.
• Y cyntaf mewn cyfres newydd i blant
• 14 pennod byr, bachog
• Stori gyffrous, llawn dirgelwch a fydd yn siwr o fachu sylw’r darllenydd
• Themâu amgylcheddol cyfredol fel ffracio wedi’u plethu’n yn llwyddiannus i mewn i’r stori
285 in stock
Does dim adolygiadau eto.