Carnifal y Creaduriaid/Carnival of the Creatures (CD-ROM)
£19.99
Stori ryngweithiol sy’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd traws-gwricwlaidd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae Clamp a Pitw yn neidio ar eu beic modur ac yn teithio o Sir Fôn i Gaerdydd gan wynebu pob math o rwystrau ar y ffordd. Drwy gwblhau gweithgareddau rhyngweithiol gellir rhoi cymorth iddynt oresgyn y problemau hyn.
Mae'r ddisg hefyd yn datblygu llythrennedd plentyn trwy'r stori raddedig, lle gwelir brawddegau yn mynd yn fwy o sialens a chyflwynir geiriau newydd i eirfa'r plentyn wrth iddynt symud ymlaen i'r lefel nesaf. Nodweddion arbennig ar y CD-ROM: gall athro greu grwpiau o ddefnyddwyr wneud defnydd o'r adnodd, gellir argraffu adroddiad gweithgareddau ar gyfer unigolion/grŵpiau i gofnodi datblygiad, gellir gosod hyd y sesiwn yn ol yr angen, rhinwedd arbennig clicio a glynu ar gyfer y llygoden i hwyluso rhai gweithgareddau i blant iau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Age | Ages 8 – 11 |
---|---|
Cyhoeddwr | Atebol |
Language | Bilingual |
Theme | Anifeiliaid |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.