Cân o Falchder

£12.99

Addasiad Cymraeg o A Song of Gladness gan Michael Morpurgo (arlunwaith gan Emily Gravett)

‘Ein cân ni yw dy gân di. Dy gân di yw ein cân ni…’

Mae cân yn cael ei throsglwyddo o un anifail i’r llall, gan uno pob creadur a lledaenu llawenydd ledled y byd. Ysbrydolwyd y stori obeithiol hon a’r arlunwaith trawiadol gan aderyn yng ngardd Michael Morpurgo, ac maent yn dangos i ni harddwch byd natur a’r hyn sydd dan fygythiad.

Crëwyd y llyfr hwn gan awdur ac arlunydd penigamp, ac mae’n ein hatgoffa bod modd i ni wneud gwahanaieth drwy uno a gofalu am ein gilydd.

Mae’r llyfr hardd hwn yn ddathliad o’n planed anhygoel a phopeth sy’n byw arni.

249 in stock

ISBN: 9781801061575 Categori:

Does dim adolygiadau eto.

Dim ond cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi sydd wedi prynu'r cynnyrch hwn a all adael adolygiad.