Skip to main content

Datganiad Polisi Amgylcheddol a Chynaliadwyedd

Mae Atebol yn gyhoeddwr arobryn sy’n datblygu ac yn cyhoeddi adnoddau digidol addysgol arloesol gan gynnwys gwefannau ac apiau rhyngweithiol, ar gyfer y cyfnod cyn ysgol, y Blynyddoedd Cynnar a’r Cyfnod Sylfaen. Rydyn ni hefyd yn datblygu adnoddau print a digidol rhyngweithiol addysgol ar gyfer y sectorau Cynradd ac Uwchradd a thu hwnt.

Mae Atebol yn arbenigo mewn datblygu adnoddau dysgu ac addysgu ar gyfer pob lleoliad gan gynnwys y cartref, ysgolion a cholegau. Mae Atebol hefyd yn cynnig ‘gwasanaeth siop un stop’ sy’n darparu gwasanaethau proffesiynol i amrywiaeth o gleientiaid sy’n dymuno datblygu deunyddiau print ac amlgyfrwng dwyieithog. Mae ein tîm creadigol yn cynnwys awduron arobryn, cyfieithwyr, golygyddion a phrawfddarllenwyr proffesiynol, dylunwyr graffig, datblygwyr apiau a dylunio gwe sy’n gallu dylunio a datblygu deunyddiau print a digidol ar gyfer lleoliad dwyieithog.

Fel busnes cyfrifol, rydyn ni’n ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth o ansawdd, ac mewn ychwanegu gwerth at y gymuned leol a’r amgylchedd ehangach. Yn hynny o beth, rydyn ni wedi ymrwymo i reoli ein heffeithiau ar yr amgylchedd a datblygiadau cynaliadwy. Rydyn ni’n cadw at yr holl ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol ac rydyn ni wedi ymrwymo i atal llygredd a gwella ein heffeithiau cynaliadwyedd yn barhaus.

Rydyn ni’n cydnabod yr effaith a gawn ar yr amgylchedd o’n cwmpas. Yn ein holl weithgareddau, arferion gwaith a pherthnasoedd busnes, byddwn yn gweithio’n barhaus tuag at ddiogelu, gwarchod a gwella pob agwedd ar ein hamgylchedd y mae gennym reolaeth neu ddylanwad drosto. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni’n gweithredu’r Polisi Amgylcheddol hwn sy’n bodloni gofynion sawl safon ac sydd wedi gosod y nodau polisi canlynol i ni’n hunain.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y canlynol: –

  • Cydymffurfio â’n Rhwymedigaethau Cydymffurfio, yn rhai rheoleiddiol a gwirfoddol, mewn perthynas â’n gweithgareddau busnes, a rhagori arnynt lle bo hynny’n ymarferol.
  • Nodi effeithiau amgylcheddol sylweddol gweithgareddau ein cwmni sy’n deillio o ddeunyddiau crai, cynhyrchion, prosesau, gwastraff a’r gwasanaethau a ddarperir a gosod amcanion amgylcheddol realistig.
  • Gwella’n barhaus berfformiad amgylcheddol ein cwmni trwy osod amcanion, targedau a rhaglenni ategol amgylcheddol.
  • Cynaliadwyedd Amgylcheddol i hyrwyddo’r defnydd gorau a mwyaf effeithlon o adnoddau ac ynni.
  • Gweithio tuag at leihau neu ddileu unrhyw lygredd gwirioneddol neu bosibl.
  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yr holl staff am bolisi amgylcheddol y cwmni a chynnal ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a materion cysylltiedig.
  • Rhoi gwybodaeth berthnasol a phriodol i’r partïon sydd â diddordeb a sefydlu deialog agored a pharhaus gyda phobl sydd â diddordeb diffuant yng ngweithgareddau’r cwmni.
  • Sefydlu cynlluniau gweithredu i wella ein perfformiad amgylcheddol, monitro’r canlyniadau hyn a chymryd y camau priodol.

Mae ein meysydd gwella allweddol yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni a dŵr, rheoli gwastraff ac effeithiau ein cadwyn gyflenwi.

Yn benodol, rydyn ni’n bwriadu:

  • Monitro a rheoli ein cyfleustodau, gan nodi gosodiadau, ffitiadau ac offer sy’n effeithlon o ran ynni a dŵr, a gosod targedau priodol i leihau defnydd.
  • Chwilio am gyfleoedd i leihau ein defnydd o ynni a dŵr ac allyriadau carbon cysylltiedig, trwy fuddsoddi mewn technoleg newydd a gwella adeiladwaith adeiladu, rhoi mesurau ar waith i ddiffodd pŵer offer a phrynu ynni adnewyddadwy.
  • Rheoli ein heffeithiau o ran deunydd crai, gan gynyddu ein defnydd o bapur wedi’i ailgylchu a phapur ardystiedig lle bo hynny’n bosibl.
  • Sicrhau bod risgiau llygredd yn cael eu lleihau drwy weithredu rheolaethau sy’n dilyn hierarchaeth o ddileu, amnewid a gweinyddu.
  • Gweithredu’r hierarchaeth wastraff ym mhopeth a wnawn, gan wahanu ffrydiau gwastraff i’w hailgylchu a chymryd cyfleoedd i leihau gwastraff yn ein holl weithrediadau.
  • Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau Dyletswydd Gofal.
  • Gweithio gydag argraffwyr sydd yr un mor ymrwymedig i gynaliadwyedd â ni a chyflwyno metrigau cynaliadwyedd i’n prosesau caffael lle bo hynny’n bosibl.
  • Sicrhau bod pob gweithiwr yn deall pwysigrwydd stiwardiaeth amgylcheddol dda a darparu hyfforddiant rheolaidd i gefnogi hyn.
  • Lle bynnag y bo’n bosibl, cefnogi busnesau a chyflenwyr lleol, lleihau milltiroedd a chynyddu ein cyfraniad i’r economi leol. Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon deuocsid yn sgil teithiau busnes drwy ehangu’r defnydd o fideo-gynadledda.
  • Cyflogi yn lleol a buddsoddi yn ein gweithlu.

Byddwn yn adolygu ein cynnydd yn rheolaidd yn erbyn y targedau a bennwyd ac yn cymryd camau unioni os na fyddwn yn cyrraedd ein nodau a’n hamcanion. Mae’r ddogfen hon yn bolisi byw, a adolygir yn flynyddol, ac rydyn ni’n croesawu mewnbwn a sylwadau cwsmeriaid, cyflenwyr a gweithwyr.

Mae Atebol yn deall manteision datblygu System Rheoli Amgylcheddol (EMS) i lefel sy’n ddigonol i ennill achrediad allanol. Rydyn ni’n dal Achrediad y Ddraig Werdd ar hyn o bryd.

Llofnodwyd

D G Saunders-Jones

01/10/2024

D G Saunders-Jones
Cyfarwyddwr