Rydyn ni’n dŷ cyhoeddi amlgyfrwng yng Nghymru sy’n ymfalchïo mewn cysylltu crewyr â’u cynulleidfaoedd naturiol.
Cyhoeddi gyda Ni
Datrysiadau Cyhoeddi wedi’u Teilwra yng Nghymru
Rhyddid Creadigol
I ni, does dim byd yn well na rhoi rhyddid i bobl greadigol fynd ati i greu. Rydyn ni’n gweithio gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru, gwledydd Prydain a’r byd i sicrhau’r sylw a’r gydnabyddiaeth maen nhw’n eu haeddu.
Mae ein tîm dwyieithog yn arbenigo mewn cyhoeddi teitlau ar gyfer pob oedran. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag awduron a phobl greadigol sy’n canolbwyntio ar greu adnoddau addysgol Cymraeg a Saesneg i oedolion.
Gwasanaethau
Ein Gwasanaethau Cyhoeddi
Er ein bod wedi dechrau fel cyhoeddwyr yn y byd addysg, bellach mae ein gwaith yn ymestyn ar draws amrywiaeth eang o sianeli a phlatfformau.
Llyfrau
Cyhoeddi Llyfrau yng Nghymru
Fel un o’r prif gyhoeddwyr llyfrau yng Nghymru sydd ag ôl-gatalog o dros 3,500 o deitlau, rydyn ni’n gweithio gyda phobl greadigol ac addysgwyr i ddarparu cyhoeddiadau ffeithiol a ffuglen ynghyd ag amrywiaeth eang o gyhoeddiadau i blant, pobl ifanc ac oedolion – a hynny’n y Gymraeg a’r Saesneg.
Dysgwch Fwy
- Rydyn ni’n cyhoeddi 60 neu fwy o lyfrau o ansawdd uchel bob blwyddyn ar gyfartaledd
- Mae ein llyfrau yn canolbwyntio’n bennaf ar ddarllen er pleser ac er mwyn dysgu
- Mae ein tîm cyfieithu wedi addasu sawl teitl poblogaidd i fersiynau Cymraeg a dwyieithog, gan gynnwys llyfrau gan awduron clodwiw fel David Walliams ac Enid Blyton
- Rydym yn cyhoeddi llyfrau ac adnoddau addysgol gwreiddiol ar gyfer dysgwyr o bob oed
- Rydyn ni’n berchen neu’n cyhoeddi brandiau adnabyddus Cymreig fel Sali Mali, Trio, Miss Prytherch, Mira, Magi Ann, a Bwci Bo.
- Mae Atebol yn Gyhoeddwr Rhaglen ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru.
Gemau
Cyhoeddi Gemau
Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cyhoeddi amrywiaeth eang iawn o gemau bwrdd, gemau cardiau heb sôn am lond trol o jig-sos ar gyfer y maes dysgu a chwarae. Gallwn baratoi’r adnoddau hyn yn y Gymraeg neu’r Saesneg neu’n ddwyieithog wrth gwrs. Os oes gennych chi syniad am gêm neu jig-so mewn unrhyw fformat yna ni ydy’r tŷ cyhoeddi naturiol i chi droi ato yng Nghymru.
Dysgwch Fwy
- Cyhoeddwyr gemau a jig-sos mwyaf Cymru
- Gemau bwrdd a chardiau
- Gemau i’w chwarae dan do ac yn yr awyr agored
- Gemau ar-lein ac ar sgrin
- Gemau addysgol
- Gemau i’r teulu
Apiau
Cyhoeddi Apiau
Mae gan ein datblygwyr digidol arloesol y gallu technegol a’r profiad angenrheidiol i greu apiau sy’n ymateb yn llawn i ofynion y client. Rydyn ni’n creu adnoddau sy’n hawdd i’w defnyddio, boed hynny o ran gofynion addysgol neu o ran mwynhad.
Dysgwch Fwy
- Datblygwr apiau Cymraeg mwyaf y byd
- Apiau dwyieithog (Cymraeg-Saesneg) ar gyfer y we a dyfeisiau symudol
- Apiau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cysylltwch am sgwrs i drafod eich Anghenion Cyhoeddi – rydyn ni yma i roi o’n gorau!
Rydyn ni’n canolbwyntio ar adeiladu perthnasoedd tymor hir gyda’n cleientiaid – gan adeiladu un tîm cydlynol. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddeall y bobl greadigol rydyn ni’n gweithio gyda nhw, a’r cynulleidfaoedd maen nhw’n eu targedu. Mae ansawdd yn hollbwysig i Atebol. Cysylltwch â ni am sgwrs i drafod eich syniad neu i sôn am yr hyn yr hoffech chi ei wireddu.