Skip to main content

Mae gennym dîm o arbenigwyr sy’n brofiadol mewn paratoi cynnwys amlgyfrwng. Maen nhw ar gael i droi eich syniadau yn realiti boed hynny’n paratoi ap neu wefan neu syniad am gem neu ffilm.

Gwasanaethau

Ein Gwasanaethau Cyhoeddi Amlgyfrwng

Yma yn Atebol, mae hyd yn oed y syniadau mwyaf cymhleth neu anarferol yn cael rhwydd hynt i ddatblygu a ffynnu. Yr hyn sy’n gwneud ein tîm creadigol yn un mor arbennig yw ein bod yn fodlon mynd yr ail filltir a mwy er mwyn gwireddu eich gweledigaeth.

Apiau a Gemau

Datblygu Apiau a Gemau

Ni ydy’r datblygwr apiau a gemau Cymraeg mwyaf yn y byd! Mae hyn wedi’i wireddu drwy law arbenigedd a phrofiad ein tîm creadigol talentog. Mae’n dealltwriaeth lawn o’r gofynion yma yng Nghymru heb sôn am am ein gallu i greu apiau dwyieithog neu mewn unrhyw iaith arall.

Gan weithio ar draws amryw lwyfannau a dyfeisiau, rydyn ni’n defnyddio ein harbenigedd technegol a’n creadigrwydd i sicrhau bod yr apiau rydyn ni’n eu creu yn adlewyrchu eich gofynion chi i’r dim. Cliciwch ar y ddolen isod i weld rhai enghreifftiau o’n prosiectau datblygu gemau dros y blynyddoedd.

Cysylltwch!
Gwefannau

Dylunio Gwefannau

Gall ein dylunwyr gwe talentog a chreadigol arddangos eich brand, eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau i’r gynulleidfa ehangaf posibl. Byddwn yn creu gwefan sy’n amlygu eich presenoldeb ar-lein ac yn cynyddu nifer eich dilynwyr.

Rydyn ni’n creu gwefannau ar gyfer busnesau, ysgolion, prifysgolion, sefydliadau cyhoeddus ac unigolion a gallwn newid yn rhwydd rhwng gwahanol arddulliau. Mae ein tîm amlddisgyblaethol o ddatblygwyr gwe, dylunwyr, awduron, golygyddion a phobl greadigol, dan arweiniad ein Rheolwyr Prosiect profiadol, yn darparu’r holl sgiliau angenrheidiol o dan yr un to.

Cysylltwch!
Ffilmiau

Cynhyrchu Ffilmiau

Gyda chymorth ein gwasanaethau ffilm gallwch adrodd eich stori mewn ffordd a fydd yn dal dychymyg eich cynulleidfa.

Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth cyflawn sy’n troi syniadau yn ddelweddau byw. Mae ein tîm yn cynnig yr holl sgiliau ac arbenigedd technegol sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu ffilm, gan gynnwys ysgrifennu sgriptiau, fideograffeg, golygu fideo, castio a gwahanol fathau o waith ôl-gynhyrchu.

Cysylltwch!

Trafodwch eich prosiect gyda’n Tîm

P’un ai eich bod yn chwilio am dîm dylunio gwefannau yng Nghaerdydd neu wasanaethau cynhyrchu ffilmiau creadigol yn Aberystwyth, mae eich syniad nesaf yn dechrau gyda sgwrs. Cysylltwch â ni heddiw i sôn am eich syniad. Rydyn ni’n un o’r cwmnïau cyhoeddi cyfryngau mwyaf blaenllaw yng Nghymru gan ein bod wrth ein bodd yn rhoi’r amser i wrando.

Cysylltwch!