Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ac isdeitlo cyflawn yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal ag amrywiaeth eang o ieithoedd eraill gan gynnwys er enghraifft Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg … heb sôn am ieithoedd eraill fel Japaneeg neu Mandarin. Rydyn ni’n cynnig ein gwasanaethau i sefydliadau a chwmnïau yng Nghymru, gwledydd Prydain ac o gwmpas y byd.
Proses Gyfoes
Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi yn y technolegau ddiweddaraf yn sicrhau ein bod bob amser yn barod i ddarparu gwasanaethau cyfieithu, trosleisio a sain ddisgrifio o’r ansawdd uchaf posibl. Rydym yn rheoli’r broses hon trwy ein meddalwedd cofnodi.
P’un a oes arnoch chi angen arwyddair syml, neges fachog ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, neu sgript deledu gyda sawl cymeriad gwahanol, bydd ein harbenigwyr ysgrifennu, cyfieithu, isdeitlo a golygu yn gwneud eu gorau i wneud yn siŵr fod y cyfan yn cyfateb yn llawn i’ch gofynion o ran darllenadwyedd ac ansawdd.
Gwasanaethau
Gwasanaethau Iaith
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth cynhwysfawr o wasanaethau ieithyddol sy’n amrywio rhwng ysgrifennu testun gwreiddiol a chynnig gwasanaeth cyfieithu a phrawfddarllen o’r radd uchaf heb sôn am isdeitlo a thrawsysgrifio, trosleisio a sain ddisgrifio.
Os ydych chi’n chwilio am wasanaethau cyfieithu, chewch chi ddim tîm mwy profiadol na ni. Yn Atebol, gall ein siaradwyr Cymraeg a Saesneg rhugl gyfieithu’r testunau mwyaf cymhleth gan sicrhau bod pob gwahaniaeth cynnil o ran ystyr ac is-destun yn cael ei gyfleu i’r gynulleidfa darged mewn iaith glir, sy’n adlewyrchu eich arddull tŷ.
Mae ein gweithwyr golygu proffesiynol yn prawfddarllen llyfrau, dogfennau, cynnwys gwefannau, datganiadau i’r wasg a mwy i sicrhau bod negeseuon ein cleientiaid yn cyrraedd eu cynulleidfa darged yn gywir ac yn y cyd-destun priodol.
Er bod gan feddalwedd awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial eu lle mewn cyfieithiadau cyffredinol, allan nhw ddim ymdrin â’r gwahaniaethau bach rhwng tafodieithoedd a geirfa gwahanol ardaloedd. Yma yn Atebol, rydyn ni’n cyfieithu testunau mewn ffordd sy’n taro deuddeg â chynulleidfaoedd lleol.
Er ein bod yn defnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau cyflymder a chywirdeb, byddwn bob amser yn dibynnu ar ein golygyddion a’n prawfddarllenwyr gweithgar i sicrhau bod ein cynnyrch yn addas i’r diben ac yn barod i’w gyhoeddi.
Mae ein gwasanaethau isdeitlo’n ategu cynnwys ar y sgrin ac yn ei wneud yn fwy hygyrch, gan roi cyfle i bawb fwynhau straeon ac adnoddau gweledol yn eu hiaith frodorol. Rydyn ni’n darparu gwasanaethau isdeitlo a thrawsgrifio ar gyfer ffilmiau corfforaethol, rhaglenni teledu, ffilmiau hir a mwy yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ieithoedd eraill hefyd.
Rydyn ni’n darparu’r cyd-destun sydd ei angen er mwyn cyfleu’r naws a’r negeseuon cywir mewn fideos corfforaethol, rhaglenni dogfen, rhaglenni teledu a mwy. P’un ai ein bod yn lleisio yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn un o’r nifer o ieithoedd eraill rydyn ni’n darparu gwasanaeth trosleisio ar eu cyfer, mae ein gweithwyr proffesiynol yn gwybod sut i ennyn a chadw diddordeb eu cynulleidfaoedd targed.
Yn Atebol, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cynnwys yn hygyrch i bawb. Mae ein gwasanaethau capsiynau caeedig yn chwarae rhan allweddol wrth wneud cynnwys fideo yn fwy cynhwysol, yn benodol i wylwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, yn ogystal â’r rhai y mae’n well ganddyn nhw wylio fideos heb sain.
Yn Atebol, rydyn ni’n ymroddedig i wneud eich cynnwys fideo yn hygyrch i bob gwyliwr trwy ein gwasanaethau capsiynau agored cynhwysfawr. Mae capsiynau agored yn rhan barhaol o’r fideo, sy’n sicrhau bod pob gwyliwr – waeth pa ddyfais maen nhw’n ei defnyddio – yn gallu cael mynediad i’r cynnwys llawn heb orfod galluogi neu ffurfweddu gosodiadau.
Yn Atebol, mae ein gwasanaethau sain ddisgrifio yn gwella hygyrchedd cynnwys fideo trwy ddarparu disgrifiadau llafar o elfennau gweledol ar gyfer gwylwyr sy’n ddall neu â nam ar eu golwg. Mae’r gwaith a wneir gennym yn sicrhau bod yr holl wybodaeth weledol allweddol – fel symudiadau, newidiadau o ran golygfa, a mynegiant wyneb – yn cael ei chyfleu’n effeithiol.
Mae gennym dîm o ysgrifenwyr creadigol sy’n gallu paratoi testun a chynnwys ar eich cyfer. Mae yma dîm creadigol o ysgrifenwyr talentog sydd â’r arbenigedd a’r profiad i greu testun a chynnwys ffeithiol a/neu ffuglen mewn unrhyw faes. Cymerwch air gydag un o’r tîm i dderbyn mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau paratoi testun a chynnwys.
Dechreuwch eich Prosiect Ieithyddol Heddiw
P’un ai eich bod yn chwilio am wasanaethau isdeitlo neu gyfieithu, mae ein tîm yn barod i wrando ar eich gofynion a chreu datrysiad wedi’i deilwra. Cysylltwch â ni heddiw i ddechrau’r broses.