Gwaddol Cyhoeddi Gomer i Aros yng Ngheredigion

24 Chwe 2021

Dau gyhoeddwr o Geredigion sydd wedi prynu adran gyhoeddi Gwasg Gomer. O ddechrau mis Ebrill ymlaen Y Lolfa ac Atebol fydd yng ngofal ôl-restr gyfoethog y wasg sydd yn dyddio yn ôl i 1946 pan brynwyd Gwasg Aberystwyth a brand Sali Mali, un o gymeriadau mwyaf hoffus plant Cymru.

Dywedodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa,
“Mae’n fraint ac yn gyfrifoldeb aruthrol i ni gynnig cartref i restr o lyfrau mor eang, mor gyfoethog ac mor bwysig yn ddiwylliannol. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu’r rhestr a sicrhau y bydd y wledd o lyfrau a gyhoeddwyd gan Gomer ar gael i’w mwynhau gan y cenedlaethau i ddod.”

Ychwanegodd Owain Saunders-Jones ar ran Atebol,
“Mae diwydiant cyhoeddi gref yma yng Ngheredigion, sydd hefyd yn rhan bwysig o’r sector greadigol yng Nghymru. Dyma sector sy’n cynnig cyfleoedd i bawb yn ogystal â chynnig cyflogaeth leol. Rydym yn falch ein bod wedi gallu cyd-weithio â Gomer a’r Lolfa i sicrhau parhad i drysorfa gyfoethog cyhoeddiadau Gomer i’r dyfodol, sy’n gymaint rhan o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol fel Cymry”.

Bydd Gomer yn mynd yn ôl i’w gwreiddiau wrth ganolbwyntio ar yr adran argraffu sy’n cyflogi 56 o gyd-weithwyr, nifer sylweddol ohonynt yn byw yn lleol, ac yn edrych ymlaen i barhau i gynhyrchu llyfrau o’r ansawdd uchaf i gwsmeriaid yng Nghymru, yn ogystal â Sefydliadau ac Amgueddfeydd mwyaf nodedig Prydain.

Dywedodd Jonathan Lewis, ar ran Gwasg Gomer,
“Hoffwn ddiolch i’n holl awduron, golygyddion a dylunwyr, Cyngor Llyfrau Cymru a phawb am eu cefnogaeth dros y degawdau, ac ar yr un pryd dymuno pob llwyddiant i Atebol ac Y Lolfa yn y fenter yma.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:
“Dros y blynyddoedd mae Gwasg Gomer wedi cyhoeddi rhai o’n hawduron pwysicaf ac fel Cyngor Llyfrau, rydym yn falch fod ôl-gatalog cyfoethog y cwmni yn cael ei ddiogelu at y dyfodol, tra hefyd yn cryfhau darpariaeth dau gwmni cyhoeddi arall yng Nghymru. Hoffem ddiolch i Gomer am eu cyfraniad gwerthfawr at gyhoeddi ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda nhw fel argraffwyr. Dymunwn pob llwyddiant i Atebol a’r Lolfa ar ddechrau’r bennod newydd yma yn hanes y ddau gwmni.”

Am fanylion pellach neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Heulwen Davies yn Llais Cymru; post@llais.cymru / 07817591930.