Skip to main content

Os Oes Gennych chi Rywbeth i’w Ddweud, Rydyn Ni’n Barod i Wylio, Darllen neu Wrando

Cysylltwch â’ch Cynulleidfa

Rydyn ni bob amser yn chwilio am grewyr cynnwys talentog ac uchelgeisiol i gydweithio â nhw. Os oes ganddoch chi syniad am lyfr, neu eich bod wedi dechrau ysgrifennu llyfr yn barod, yna beth am gysylltu am sgwrs? Byddem wrth ein bodd yn clywed ganddoch chi. Mae’r un croeso i chi gysylltu os ydych chi am baratoi arlunwaith neu fod ganddoch chi syniad ar gyfer creu cynnwys amlgyfrwng. Yma i helpu!

Cyflwynwch eich cynnwys heddiw i rannu eich neges gyda’r gynulleidfa ehangaf bosibl.

Rhannwch Stori

Mae Eich Cynnig yn Dechrau Yma

Cwblhewch y ffurflen syml isod a dywedwch wrthym amdanoch chi a’ch syniad neu greadigaeth. Rydyn ni’n gwmni dwyieithog, felly mae croeso i chi anfon eich cynnig yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Pethau i’w Hystyried

Wrth gyflwyno stori, y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw bod eich gwaith yn cyd-fynd â’r meini prawf canlynol, sef bod eich gwaith:

  • Yn gwbl wreiddiol
  • Wedi’i greu gennych chi neu dîm y gwnaethoch gydweithio ag ef

Cofiwch ein bod fel arfer yn adolygu cynigion ar gyfer llyfrau yn ystod y Gwanwyn a Hydref, felly byddwch yn ymwybodol y gallai gymryd ychydig wythnosau i ni ymateb yn llawn.

Os oes gennych syniad ar gyfer cynnwys addysgol, yna dewiswch y gwymplen ‘Syniad Addysg’. Mae’r rhain yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Cyflwynwch eich Stori

Ydych chi’n barod i rannu eich straeon gydag un o’r cyhoeddwyr amlgyfrwng uchaf eu parch yng Nghymru?

Cysylltwch â ni i drefnu sgwrs

Cysylltwch!