Rydyn ni’n falch o gefnogi a chydweithio gydag awduron a darlunwyr disglair o Gymru a thu hwnt.
Awduron a Darlunwyr
Pob Lefel Profiad
Gweithio gydag Awduron a Darlunwyr o Fri
Mae Atebol yn falch iawn o fod yn gweithio gydag awduron a darlunwyr talentog, rhai ohonyn nhw’n brofiadol, rhai yn cyhoeddi am y tro cyntaf gyda ni ond pob un yn wych ac yn ein galluogi i ddal dychymyg ac ysbrydoli ein darllenwyr.
- Credadwy
- Proffesiynol
- Wedi Ennill Gwobrau
- Gwybodus
- Creadigol
Awduron
Dewch i Gwrdd â’n Hawduron
Ian H Watkins
Mae Ian H Watkins, sy’n fwyaf adnabyddus fel H o Steps, yn aelod o’r grŵp pop eiconig Steps, sydd wedi gwerthu dros 22 miliwn o recordiau ledled y byd ac wedi cael pedair albwm Rhif 1 yn y Deyrnas Unedig dros gyfnod o bedwar degawd.
Mae bellach yn gweithio fel arlunydd, ac mae ei waith celf wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda sawl arddangosfa wedi gwerthu allan ledled y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd mae Ian yn byw yn Ne Cymru gyda’i efeilliaid, Macsen a Cybi, a’i bartner, Tom.
Mererid Hopwood
“Mae’r swyddfa yn Yr Egin yn gymysgedd hyfryd o lolfa a ffatri, ac mae’r tîm yn groesawgar ac yn gweithio’n galed. Diolch am y gwaith proffesiynol ac am fod yn awyddus i gymryd risgiau.”
Sioned Wyn Roberts
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ennillodd ei nofel cyntaf i oedolion ifanc, Gwag y Nos, gwobr Tir na n-Og yn 2022, yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. Credai Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy’n tanio dychymyg plant ac sy’n helpu caffael iaith yn hanfodol.
Aidan Saunders
“Roedd gweithio gydag Atebol fel darlunydd ac awdur yn bleser. Roedd yn brofiad cydweithredol a difyr tu hwnt gyda chwmni sy’n annog arbrofi, yn meithrin syniadau ac yn awyddus i greu syniadau cyffrous newydd.”
Luned Aaron
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chwmni Atebol sydd â gorwelion eang ac uchelgeisiol yn y maes cyhoeddi. Cymorth o’r mwyaf oedd derbyn adborth golygyddol o safon, sydd yn amlwg yn rhoi pwys o’r mwyaf ar y wedd weledol mewn cyfrolau i blant.”
Meilyr Siôn
“Mae Atebol yn gwmni deinamig, gweithgar ac yn agored iawn pan mae’n dod i grybwyll syniadau am brosiectau newydd. Fel awdur, dwi’n crybwyll Atebol i unrhyw un sydd eisiau sgwennu llyfrau. Mae gen i bob hyder ym mhenderfyniadau’r cwmni ac mae’r tîm bob amser yn awyddus i drafod syniadau gyda’u hawduron o ran dylunio, hyrwyddo a golygu.”
Eurig Salisbury
“Un o’r pethau gwych am gydweithio ag Atebol yw’r agosatrwydd. Mae Atebol yn gwmni teuluol, wrth gwrs, ac mae hynny i’w weld yn amlwg yn ei holl waith. O’m safbwynt i fel awdur, mae’n bleser cydweithio â’r staff, a dwi bob tro’n edrych ymlaen at gyfleoedd newydd i wneud hynny. Mae’n gwmni blaengar hefyd, sy’n bwysig, dwi’n meddwl, yn arbennig o ran dod o hyd i ffyrdd newydd i gyrraedd darllenwyr a chynulleidfaoedd, o argraffu i greu gwefannau”
Elidir Jones
“Roedd Atebol yn agored i syniadau – ac yn fodlon cymryd risg – o’r cychwyn cyntaf. O olygu i ddylunio, maen nhw wastad yn gwthio tuag at wneud y cynnyrch gorau posibl, ac yn parchu barn yr awdur ar bob cam o’r prosiect. Fyddwn i’n argymell i unrhyw un gysylltu ag Atebol os am gynhyrchu gwaith i bobl ifanc sy’n gyffrous, yn wahanol, ac yn denu mwy na’i siâr o sylw ar y silff.”
Linda Davies
“Dwi wedi gweithio gyda chyhoeddwyr dros y byd ac mae Atebol gyda’r gorau ohonynt – creadigol dros ben, proffesiynol, cyfeillgar ac mae hwyl i’w gael o hyd!”
Sean Chambers
“Fel darlunydd mae wedi bod yn wych gweithio gydag Atebol. Maen nhw’n agored i syniadau ac yn llawn cyngor ac arweiniad pan fo angen. Mae gallu cyfathrebu gyda’r golygydd creadigol a nawr y dylunydd wedi bod o gymorth anferth.”
Joanna Davies
“Diolch i Atebol, dwi wedi gallu datblygu fel awdur llyfrau plant ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau llwyddiannus yn y DU a thramor. Mae cefnogaeth a safonau uchel Atebol wedi arwain at lawer o gyfleoedd cyffrous i fi fel awdur.”
Arlunwyr
Dewch i Gwrdd â’n Darlunwyr
Aidan Saunders
“Roedd gweithio gydag Atebol fel darlunydd ac awdur yn bleser. Roedd yn brofiad cydweithredol a difyr tu hwnt gyda chwmni sy’n annog arbrofi, yn meithrin syniadau ac yn awyddus i greu syniadau cyffrous newydd.”
Luned Aaron
“Roedd gweithio gydag Atebol fel darlunydd ac awdur yn bleser. Roedd yn brofiad cydweithredol a difyr tu hwnt gyda chwmni sy’n annog arbrofi, yn meithrin syniadau ac yn awyddus i greu syniadau cyffrous newydd.”
Steven Goldstone
“Mae hi bob amser yn brofiad da gweithio gydag Atebol fel darlunydd. Dwi’n gwerthfawrogi’r annogaeth a’r gefnogaeth i greu’r llyfrau gorau posib.”
Oes gennych chi stori i’w hadrodd?
Rydyn ni wastad yn chwilio am greadigrwydd a thalent – Cyflwynwch eich trawsgrifiad neu syniad heddiw!