Skip to main content

Cyfoeth o adnoddau dwyieithog i danio brwdfrydedd a chariad at addysgu a dysgu.

Cwricwlwm i Gymru

Rydyn ni’n ymroddedig i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’n unigolion sy’n mwynhau ac yn frwdfrydig dros ddysgu a bod ein hadnoddau’n ysgogi, cefnogi a chynnal addysgwyr i gefnogi dysgwyr i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Pwrpas 6 logo unigryw Atebol ar gyfer Meysydd Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm i Gymru yw hwyluso gwaith cynllunio’r ymarferwyr a sicrhau ein bod yn bodloni anghenion pob dysgwr. Mae’r logos yma’n cael eu harddangos a’u defnyddio ar ein hadnoddau addysgol.

Y Dyniaethau

Iechyd a Lles

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mathemateg a Rhifedd

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dweud Eich Stori Chi, Gyda Ni

Cysylltwch!
Fideos

Amser Stori

Mae gennym lu o fideos difyr sy’n rhannu fersiynau llafar unigryw o straeon poblogaidd Atebol, sy’n rhoi digonedd o gyfleoedd i blant y Cyfnod Sylfaen a thu hwnt fwynhau straeon yn Gymraeg. Gall dysgwyr wrando’n annibynnol yn yr ysgol neu yn y cartref gyda’u teulu. Mae’n adnodd arbennig i ddatblygu ymwybyddiaeth o eirfa Gymraeg. Mae rhywbeth at ddant pawb!

Adnoddau

Adnoddau Addysgol Atebol

Adnoddau Addysgol ar eu Gorau

Prif nod ein hadnoddau addysgol ydy sicrhau eu bod yn ymateb i’r galw ac yn gyfrwng i wella sgiliau sylfaenol yn ogystal â bod yn gyfrwng i ddeall a dysgu mwy am feysydd dysgu a phynciau newydd. Mae yma amrywiaeth eang o adnoddau amlgyfrwng. Adnoddau sy’n addas ar gyfer pob oedran a gallu a hynny yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Dyma ddarpariaeth sy’n cynnig adnoddau ar gyfer y rhai sy’n dysgu’r Gymraeg fel mamiaith neu’r rhai sy’n dysgu’r Gymraeg fel iaith ychwanegol yn ogystal â darpariaeth ar gyfer y rhai sydd ag Anghenion Addysgol Ychwanegol.

Ar Gyfer yr Ysgol neu’r Cartref

Mae’n werth edrych ar ein gwefan i edrych ar yr amrywiaeth eang o adnoddau addysgol sydd ar gael ar eich cyfer. Mae cymaint ar gael ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion -boed hynny’n llyfrau ffeithiol neu lyfrau ffuglen, yn llyfr adolygu neu’n werslyfr ar gyfer astudiaethau uwch mewn Busnes, Cyfrifiadureg neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cofiwch fod adnoddau ar gael ar gyfer dysgwyr sydd am feistroli’r sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a rhifedd. Adnoddau hefyd ar gael ar gyfer dysgwyr Camau Cynnydd 1 – 5.

Os nad oes adnodd ar gyfer yr hyn rydych chi’n chwilio amdano yna cysylltwch â ni. Fe fyddwn ni’n falch iawn i geisio helpu i weld beth sydd ar gael ar eich cyfer.

Ewch i’r Siop i weld beth sydd ar gael!

Gofynion Ychwanegol

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion addysgol ychwanegol.

Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys adnoddau amlgyfrwng ar gyfer dysgu sgiliau sylfaenol llythrennedd a rhifedd yn ogystal ag adnoddau ar gyfer dyslecsia, awtistiaeth a Syndrom Asperger.

Cofiwch gysylltu â ni am sgwrs – rydyn ni yma i helpu!

Adnoddau am Ddim

Adnoddau am Ddim

Mae’n werth edrych ar yr adnoddau sydd ar gael am ddim ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae’r adnoddau’n cynnwys adnoddau amlgyfrwng gan gynnwys apiau, gweithgareddau sy’n cyd-fynd â llyfrau stori poblogaidd yn ogystal ag adnoddau ar gyfer astudiaethau uwch sy’n addas er enghraifft ar gyfer Ieithoedd Modern Tramor a’r Gymraeg.

Gallwch ddewis a dethol adnoddau a’u rhannu â dysgwyr boed hynny mewn lleoliad addysgol neu yn y cartref. Mae pob adnodd yma am ddim ac yn addas ar gyfer ar gyfer pob oedran a gallu.

Dweud Eich Stori Chi, Gyda Ni

Cysylltwch!
Adnoddau Dwyieithog

Casgliad o Adnoddau ar Wefan Hwb

Mae’n werth edrych ar y casgliad o adnoddau dwyieithog gwerthfawr Atebol sydd ar wefan Hwb. Mae’r wefan hon yn rhannu’r adnoddau diweddaraf ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru. Mae’r adnoddau, y rhestri chwarae, y lluniau a’r clipiau fideo yn addas ar gyfer y sector cynradd ac uwchradd.

Cymorth

Hyfforddiant a Chefnogaeth

Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth pwrpasol i gefnogi addysgwyr a hyfforddwyr proffesiynol er mwyn sicrhau’r defnydd gorau posibl o’n hadnoddau addysgol.

Ydych chi’n barod i rannu eich straeon gydag un o’r cyhoeddwyr amlgyfrwng uchaf eu parch yng Nghymru?

Cysylltwch â ni i drefnu sgwrs

Cysylltwch!