Only logged in customers who have purchased this product may leave a review.
M am Awtistiaeth
£8.99
M. Dyna beth hoffwn i chi fy ngalw i, plis. M. Fe ddyweda i pam nes ’mlaen.
Croeso i fy myd i. Mae’n fyd pendramwnwgl, sur a chwerw, ac mae bwystfil gorbryder yn llercian y tu allan i bob stafell ddosbarth ac yn fy stopio i rhag cael bodolaeth normal. Dw i eisiau bodolaeth NORMAL. Dw i eisiau bod fel merched eraill fy oed i sy’n gwybod beth i’w ddweud a’i wneud. Dw i eisiau bod gyda Lynx a’i wefusau melys a’r gel yn ei wallt; Lynx sy’n werth y byd i gyd yn grwn. Felly pam mae hi’n teimlo fel petawn i’n bodoli ar blaned wahanol i bawb arall? A beth yn y byd ydy normal?
299 in stock
There are no reviews yet.