Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart
£6.99
Mae Ffred a’i ffwlbart yn ffrindiau gorau
ond digwyddodd rhywbeth od un bore
wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti –
ar fy ngwir! Dyma’r stori …
Dewch i gwrdd â Ffred a’i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus.
Stori llawn hwyl gyda thestun sy’n odli yn seiliedig ar un o’n dywediadau Cymraeg mwyaf od!
Stori gan Sioned Wyn Roberts. Arlunwaith Bethan Mai.
Mae cyfle isod i chi gwrdd â Sioned Wyn Roberts a Bethan Mai, awdur ac arlunydd y llyfr! Fe gawn glywed beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr a chawn flas ar y stori unigryw sy’n mynd â ni ar antur i ddatrys problem ddrewllyd iawn…
Yr Awdur: Sioned Wyn Roberts
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu’n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda’r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Credai Sioned fod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy’n tanio dychymyg plant ac sy’n helpu caffael iaith yn hanfodol.
Yr Arlunydd: Bethan Mai
Mae Bethan yn byw ger y môr ym Mhenbre. Darluniodd ei llyfr cyntaf ddwy flynedd yn ôl (Brên Babi, Mari Lovegreen, Gwasg Gomer) a dyma’r chweched llyfr iddi ddarlunio ers hynny. Mae wrth ei bodd yn darlunio llyfrau - yr elfen o ddweud stori a dod â chymeriadau yn fyw a mynd â’r darllenwyr i fyd arall. Dechreuodd ei gyrfa fel actores. Hyfforddwyd hi yn y Royal Central School of Speech and Drama. Mae hefyd yn gantores ac yn aml-offerynwraig yn y band Rogue Jones. Dewiswyd Bethan fel un o ddarlunwyr cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019) lle cyfarfu hi â Sioned a syrthio mewn cariad â’r cymeriadau Ffwlbart a Ffred!
Additional information
Dimensions | 245 × 245 mm |
---|---|
Age | Under 7 |
Language | Welsh |
Publisher | Atebol |
You must be logged in to post a review.
Reviews
There are no reviews yet.