Only logged in customers who have purchased this product may leave a review.
Chwedlau’r Copa Coch: Yr Horwth
£7.99
“Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio.”
Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth.
Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.
Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.
“Y cyntaf mewn cyfres o lyfrau ffantasi wedi’u hanelu at bobol ifanc, mae’r llyfr hwn yn cyfuno cynnwrf, antur a hiwmor a bydd yn anodd rhoi’r llyfr I lawr o’r frawddeg gyntaf. Mae’r darluniau yn rhan yr un mor bwysig o’r stori â’r testun.”
WELSH BOOKS FOR YOUNG PEOPLE – THE BEST OF 2019
Wales Arts Review
Dyma’r Horwth yn cael sylw yn narllediad Heno S4C yn ‘Sioe Diwrnod y Llyfr’!
293 in stock
There are no reviews yet.