Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn

£8.99

Addasiad Cymraeg o A Mindfulness Guide for the Frazzled gan Ruby Wax. Bum can mlynedd yn ôl, doedd neb yn marw o straen: ni wnaeth ddyfeisio’r cysyniad hwn, ac rydyn ni bellach yn gadael iddo’n rheoli ni. Mae Ruby Wax yn dangos i ni sut i lacio’n gafael er ein lles ein hunain, drwy wneud newidiadau syml sy’n rhoi cyfle i ni anadlu, myfyrio a byw yn y funud. Gadewch i Ruby eich tywys at y chi iachach a hapusach. Yr unig beth sydd gennych i’w golli yw’ch straen…

In stock

ISBN: 9781913245115 Categories: , ,

‘Llyfr bendigedig yn llawn angerdd ac asbri. Mae Wax yn cyflwyno’i golwg unigryw ar wyddoniaeth ac ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, ac yn cynnig canllaw cam wrth gam i ganfod llonyddwch dwys yng nghanol yr anhrefn’
Yr Athro Mark Williams

‘Mae popeth mae Ruby Wax yn ei gyffwrdd yn troi’n aur. Yn y llyfr hwn, mae’n troi arswyd ac anobaith yn bethau y gellir eu goddef a’u deall: mae’n alcemydd’
Joanna Lumley

‘Roeddwn i wrth fy modd â’r Canllaw Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn. Mae’n huawdl a doniol ac fe wnaeth i mi chwerthin yn uchel’
Davina McCall

‘Canllaw ymarferol... boed ar gyfer rhai sydd yn eu harddegau, rhieni neu’r sawl sy’n cael trafferth mewn perthynas. Mae mor ffraeth, clyfar a hygyrch fel y byddwch yn llyncu pob gair. Perl disglair o lyfr’
Heat

Additional information

Dimensions128 × 197 mm
Age

Ages 16+, Adult

Language

Welsh

Publisher

Atebol

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn”