Only logged in customers who have purchased this product may leave a review.
Chwedlau’r Copa Coch: Oes yr Eira
£7.99
Yn dilyn Yr Horwth a Melltith yn y Mynydd, mae arwyr y Copa Coch yn mentro o’u cartref am y tro cyntaf, ar drywydd dirgelwch sy’n cuddio ym mryniau a chorsydd teyrnas Bryn Hir.
Yng nghwmni Orig y tafarnwr, mae Sara, Pietro, Heti a Nad yn cael eu denu yn erbyn eu hewyllys i un o’r llefydd mwyaf diflas yn y byd, yn llawn dim byd ond defaid, glaswellt, pentrefi di-nod… ac, os oes unrhyw wirionedd yn y straeon diweddaraf, hen dduw anghofiedig sy’n crwydro’r tir, yn mynnu dial ar deyrnas sydd wedi ei adael ar ôl.
Mae Oes yr Eira yn nofel ffantasi sy’n parhau â chyfres epig a llawn hiwmor Chwedlau’r Copa Coch. Bydd yn sicr yn apelio at ddarllenwyr hen ac ifanc sy’n hoff o antur, brwydrau a pherygl.
Enillodd Yr Horwth, sef cyfrol gyntaf y gyfres, wobr Llyfr y Flwyddyn 2020 (categori Plant a Phobl Ifanc).
249 in stock
There are no reviews yet.