Gwag y Nos

(3 customer reviews)

£6.99

‘Dim ond un rebel sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.’

Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti’n dlawd mae’n uffern.

Ers i Magi Bryn Melys symud i Wyrcws Gwag y Nos, mae hi wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat. Ond mae bod yn rebel yn beryglus, ac un bore mae pethau’n dechrau mynd o ddrwg i waeth i Magi.

Mae’n amlwg bod rhywbeth mawr iawn o’i le yn y Wyrcws, ond pwy sydd ar fai? A fydd Magi’r rebel yn llwyddo i achub ei ffrindiau a datrys cyfrinach dywyll Gwag y Nos?

Dyma ei stori hi …

Nofel antur Fictoraidd, llawn dirgel a plot sy’n parhau i droelli hyd at y diwedd!

In stock

ISBN: 9781913245368 Categories: , , ,

Additional information

Dimensions130 × 198 mm
Age

Ages 7-9, Ages 8 – 11

3 reviews for Gwag y Nos

  1. Cain (9 oed)

    ‘Mae’r nofel yma yn hollol wahanol i bob llyfr arall dwi wedi ei ddarllen. Mae’n fy atgoffa o Te yn y Grug gan Kate Roberts am fod y stori ddim ofn deud pethau anodd am be oedd yn digwydd i blant ers talwm. O’n i’n lecio cael gwybod be sy’n digwydd ym mhen Magi, a roedd ei hatgofion am ei mam yn gwneud imi deimlo drosti. Roeddwn i’n teimlo bechod dros Magi am bod ei mam wedi marw – ac am fod pawb mor gas efo hi.

    O’n i’n lecio’r darn lle roedd Robat Wyllt yn rhedeg ar ol Elsi a Magi yn Gwag y Nos efo’i ffon ac yn ymosod ar Elsi nes tynnu gwaed. Roedd y darn yna yn gyffrous ac annisgwyl.

    Mi faswn i’n awgrymu y llyfr yma i unrhyw un sy’n lecio straeon am fywyd caled, ers talwm. Weithiau ro’n i isio crio am fod pawb mor gas efo Magi ond nes i chwerthin lot hefyd, yn enwedig pan oedd Elsi a Magi yn bod mor ddireidus.

    O’dd y llyfr yma yn briliant.’

  2. Lleucu (12 oed)

    “Llyfr cyffrous a gafaelgar tu hwnt.”

  3. Deio (10 oed)

    “Dechrau bywiog yn rhoi blas o’r stori yn dangos y lleoliad a’r cyfnod. Disgrifiadau sy’n rhoi lluniau yn fy mhen, gyda cymariaethau a rhestrau sy’n gwneud i mi fod eisiau gwybod mwy. Stori gyffrous sy’n dysgu am fywyd pobl ers talwm, y cyfoethog a’r tlawd.”

Add a review