Chwedlau’r Ddraig: Cwm y Wrach
£6.99
Daw hen chwedl yn fyw yn y stori antur fodern hon. Lleolir y nofel ger Aberaeron a dilynwn Daisy, merch 11 oed, a’i theulu ar ôl iddynt symud o’r gogledd i redeg ganolfan arddio yn yr ardal.
Un diwrnod, mae Daisy yn benthyg llyfr chwedlau eithaf cyffredin ei olwg o’r Ffair Lyfrau flynyddol yn yr ysgol. Nid oes ganddi fawr o obaith am y llyfr anniddorol, nes iddi gael ei thaflu oddi ar ei beic ar ei thaith adref o’r ysgol… dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd! Wrth ddychwelyd adref, yn dilyn ei gwrthdrawiad ar y beic, mae Daisy yn argyhoeddedig ei bod wedi cwrdd â Mari Perllan Pedr, gwrach o chwedl leol adnabyddus. Ond sut y gall hynny fod yn bosib?
Dilynwch antur ddirgel Daisy wrth iddi geisio darganfod y gwir a chesio achub busnes ei theulu yn Arthen Fach ar yr un pryd.
• Y cyntaf mewn cyfres newydd i blant
• 14 pennod byr, bachog
• Stori gyffrous, llawn dirgelwch a fydd yn siwr o fachu sylw’r darllenydd
• Themâu amgylcheddol cyfredol fel ffracio wedi’u plethu’n yn llwyddiannus i mewn i’r stori
Yr Awdur - Meilyr Siôn
Daw Meilyr Siôn o Aberaeron yn wreiddiol ond bellach mae’n byw yn y Barri gyda’i deulu. Yn awdur, cyflwynydd ac yn actor llawrydd mae Meilyr wedi ysgrifennu sawl nofel i blant. Mae eisioes wedi cyfrannu at raglen Tic Toc ar Radio Cymru ac wedi trosleisio cartwnau plant ar S4C.
Additional information
Dimensions | 129 × 198 mm |
---|---|
Age | Ages 8 – 11 |
Language | Welsh |
Publisher | Atebol |
You must be logged in to post a review.
Reviews
There are no reviews yet.