Chwedlau’r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd
£7.99
Mae cyfres Chwedlau’r Copa Coch yn parhau, ac ar ôl trechu bwystfil hunllefus yn Yr Horwth, mae arwyr y Copa Coch bellach yn wynebu perygl llawer mwy. Y melltith yn y mynydd…
Mae blwyddyn wedi pasio. Wrth i Sara, Pietro, Heti a Nad wneud eu gorau i ymgartrefu ar lethrau’r Copa Coch, mae’r ysbrydion maleisus sy’n llechu yng nghrombil y mynydd yn dianc o’u cartref tywyll a bygwth y pentref newydd. Dim ond un peth sydd i’w wneud: mentro i’r crombil mewn ymgais orffwyll i ddifa’r ysbrydion, unwaith ac am byth.
Yn fuan iawn mae’r criw yn cael eu gwahanu – Pietro yn cael ei feddiannu gan ysbryd milwr o’r gorffennol pell; Sara a Nad yn cychwyn ar daith i’w achub drwy’r ddinas danddaearol o dan y mynydd; a Heti, yn ei thro, yn dilyn yn eu holion traed hwythau, yng nghwmni cantores o wlad bell… a’r allwedd i ddatgloi cyfrinachau’r mynydd.
A thra bod ei gyfeillion yn gwneud eu gorau i’w achub, mae Pietro yn ailfyw brwydr dyngedfennol gafodd ei hymladd ar y mynydd fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, yn cyfarfod arwyr a dihirod wedi hen farw, ac yn dod i ddysgu bod y Copa Coch yn llawer pwysicach nac oedd neb wedi ei sylweddoli…
• Nofel ffantasi i bobl ifanc
• Parhau â’r stori epig a llawn hiwmor gafodd ei chychwyn yn Yr Horwth
• Perffaith i’r rheiny sy’n hoff o antur, brwydrau, ysbrydion, perygl, a chrancod mawr bwystfilaidd.
Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015, a
Chwedlau’r Copa Coch: Yr Horwth yn 2019. Mae rhai o'i gredydau teledu a radio yn cynnwys Arfordir Cymru, I Was There (Radio Wales) a Cynefin.
Additional information
Dimensions | 130 × 185 mm |
---|---|
Age | Ages 8 – 11, Ages 12+, Ages 14+, Ages 16+ |
Language | Welsh |
Publisher | Atebol |
You must be logged in to post a review.
Reviews
There are no reviews yet.