Taith Ryfeddol a Gwyrthiol Ffredi Yates
£6.99
Ffeithiau yw popeth i Ffredi Yates, bachgen 11 oed. Ar ôl i’w fam-gu farw ac mae’n darganfod bod ei dad biolegol yn dal yn fyw yn ne Cymru, mae’n penderfynu dilyn y ffeithiau. Ynghyd â’i ffrindiau gorau Ben a Ianto, mae’n sleifio i ffwrdd ar antur oes (neu o leiaf, gwyliau’r haf) i chwilio am ei dad.
Addasiad Cymraeg o The Super Miraculous Journey of Freddie Yates gan Jenny Pearson.
Pan mae’r tri bachgen yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau anesboniadwy yn ddiarwybod trwy gystadleuaeth bwyta nionyn, cwpl o wisgoedd archarwyr, a rhai lladron hynafol blin iawn, mae Ffredi yn darganfod na ellir esbonio rhai pethau bob amser – ac weithiau mae beth rydych chi wedi bod yn chwilio amndano reit o flaen eich llygaid yr holl amser!
Yn ysgogol a doniol, mae Taith Ryfeddol a Gwyrthiol Ffredi Yates yn stori galonogol am wir ystyr teulu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dimensiynau | 130 × 198 mm |
---|
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.