Seicoleg Uwch Gyfrannol – Y Cydymaith Cyflawn (Ailargraffiad)
£21.99
Mae’r gyfrol hon wedi’i hysgrifennu gan awduron ac arholwyr Seicoleg profiadol. Mae’r ail argraffiad hwn o’r gwerslyfr poblogaidd Y Cydymaith Cyflawn wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer Bwrdd Arholi CBAC. Nod y gyfrol yw sicrhau fod dealltwriaeth dda gan fyfyrwyr o’r pwnc a fydd yn arwain at ddealltwriaeth a chanlyniadau safonol.
Mae’r gyfrol hon wedi’i hysgrifennu gan awduron ac arholwyr Seicoleg profiadol. Mae’r ail argraffiad hwn o’r gwerslyfr poblogaidd Y Cydymaith Cyflawn wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer Bwrdd Arholi CBAC. Nod y gyfrol yw sicrhau fod dealltwriaeth dda gan fyfyrwyr o’r pwnc a fydd yn arwain at ddealltwriaeth a chanlyniadau safonol.
Mae cynnwys y gyfrol wedi’i greu i ymateb yn llawn i fanyleb newydd CBAC (Cymru) sydd wedi’i achredu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysgu myfyrwyr Uwch Gyfrannol. Mae’r gyfrol yn gyfuniad o’r hyn y gall gwerslyfr traddodiadol ei gynnig ynghyd â chynnig darpariaeth ar gyfer adolygu ac ymarfer ar gyfer yr arholiadau.
Llyfr lliw llawn sydd ag arddull cylchgrawn a thudalennau dwbl sy’n gyforiog o ddeunydd gweladwy. Cefnogaeth gynhwysfawr ar gyfer meithrin sgiliau i ymateb i gwestiynau sy’n gofyn am atebion lle mae angen cymhwyso gwybodaeth a chwilio am wybodaeth ychwanegol. Digon o gyfle drwy gydol y gyfrol i ymarfer sut orau i ateb cwestiwn.
Gair am yr awduron:
Mae gan Cara Flanagan flynyddoedd o brofiad fel Uwch Arholwr. Awdur profiadol yn y maes, ynghyd a bod yn drefnydd cynadleddau a bod yn hyfforddwr Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae Lucy Hartnoll yn ddarlithydd profiadol mewn Seicoleg Safon Uwch ac mae hefyd yn arholwr yn y pwnc. Mae eisoes wedi cyhoeddi dau lyfr Seicoleg. Mae Rhiannon Murray wedi addysgu Seicoleg UG a Safon Uwch er 1996. Mae’n awdur profiadol ac yn arholwr pwnc.
Mae Jenny Hill gyda phrofiad o addysgu Seicoleg ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi bod yn aelod o dîm arholi a thîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus ers sawl blwyddyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Age | Ages 16+ |
---|---|
Language | Welsh |
Cyhoeddwr | Atebol |
Subject | Psychology |
Type | Revision |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.