Pecyn Adnoddau Mawreddog Freddie Yates – Dysgu yn y Cartref
£0.00
Mae’r pecyn adnoddau hwn wedi cael ei addasu i’w ddefnyddio gartref. Mae’n llawn dop o weithgareddau addysgiadol a sbardunwyd gan y llyfr doniol a dwymgalon Taith Ryfeddol a Gwyrthiol Ffredi Yates. Mae’r gweithgareddau’n addas ar gyfer plant 7-11 oed. Bydd y pecyn hwn yn ysbrydoli dysgwyr i ddarllen, sgwrsio ac ysgrifennu amrywiaeth o ‘genres’. Mae’r pecyn hefyd yn cwrdd â gofynion Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill megis y Dyniaethau, y Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles.