Zap Ffactor – Jigso Llafariaid
£3.99
Mae Jig-so Llafariaid yn rhoi’r cyfle perffaith i ymgyfarwyddo â llafariaid Cymraeg – a, e, i, o, u, w, y.
Ydych chi’n hoffi gwneud jig-sos? Wel, dyma gyfle i chi ddysgu’r llafariaid Cymraeg trwy gyfrwng jig-sos rhyngweithiol. Mae’r ap yma wedi ei baratoi ar gyfer plant Cynradd. Mae’r tair lefel yn dilyn yr un patrwm gydag o leiaf un llythyren ar goll o bob gair… allwch chi lenwi’r darnau coll i gwblhau’r gair?
• Lefel 1 – Rhaid llusgo’r llafariad sy’n dechrau’r gair.
• Lefel 2 – Rhaid llusgo’r llafariad sydd ar goll yn y gair.
• Lefel 3 – Rhaid llusgo’r ddwy lafariad sydd ar goll yn y gair.
Cewch eich diddori gyda’r jig-sos digri a thrwy gyfrwng ein system sgorio, gallwch gymharu eich canlyniadau chi â rhai eich ffrindiau. Lawrlwythwch yr ap heddiw er mwyn dysgu mwy!
Gwybodaeth Ychwanegol
Age | Under 5 |
---|---|
Cyhoeddwr | Atebol |
Subject | Literacy |
Istore |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.