Zap Ffactor – Cytseiniaid Clwm

£3.99

Mae Cytseiniad Clwm yn rhoi’r cyfle perffaith i adnabod cytseiniaid dwbl Cymraeg, sef bl, br, chw, cl, cn, cr, cw, dr, tl, ffl, ffr, gl, st, gr, gw, pl, pr, sb, sg, sl a tr.

Os ydych chi’n hoffi cael hwyl wrth ddysgu Cymraeg, wel dyma’r ap delfrydol i chi! Mae wedi ei baratoi ar gyfer plant Cynradd. Cewch gyfle i ynganu amrywiol gytseiniaid clwm (deugraffau) gyda chymorth cartwnau doniol! Mae yna bedair lefel ar eich cyfer:

• Lefel 1 – Rhaid dweud beth sydd yn y cartŵn. Yna, rhaid cyfateb y Cytseiniaid Clwm o’r carwsél â’r cartŵn.
• Lefel 2 – Rhaid ynganu’r cytseiniaid clwm. Yna, rhaid edrych ar y carwsél o gartwnau, dewis y cartŵn sy’n dechrau â’r cytseiniaid clwm a’i dapio.
• Lefel 3 – Yma mae’r cartwnau a’r cytseiniaid clwm yn cuddio. Felly rhaid troi’r cardiau drosodd yn eu tro er mwyn paru’r cartŵn a’r cytseiniaid clwm sy’n dechrau’r gair.
• Lefel 4 – Mae’r cardiau sy’n cyflwyno’r cartwnau y tro hwn yn troi drosodd o ran eu hunain. Felly, rhaid darllen y cytseiniaid clwm a thapio’r cartŵn sy’n cyfateb.

Gyda’r system sgorio, gallwch gymharu eich canlyniadau chi â rhai eich ffrindiau. Lawrlwythwch yr ap heddiw er mwyn dysgu mwy!

ISBN: cytseiniaidclwm Categories: , ,

Gwybodaeth Ychwanegol

Age

Under 5

Cyhoeddwr

Atebol

Subject

Literacy

Istore

https://apps.apple.com/gb/app/cytseiniaid-clwm/id1482380361

Adolygiadau

Nid oes unrhyw adolygiadau eto.

Byddwch y cyntaf i adolygu "Zap Ffactor – Cytseiniaid Clwm"