Criw Trio
£0.00
CRIW TRIO – clwb cyfrinachol newydd sbon AM DDIM i blant Cymru yn seiliedig ar Trio, ein cyfres o lyfrau gwreiddiol a doniol gan Manon Steffan Ros.
Ydych chi’n chwilio am antur? Yn caru Cymru? Eisiau achub y byd?
Wel, blant Cymru, dewch yn aelod o’n clwb newydd sbon ar gyfer holl ffans Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo – Criw Trio.
Bydd pecyn croeso arbennig yn y post i bob aelod, yn cynnwys cynigion unigryw, anrheg neu ddau ac ambell i syrpréis gan Clem, Dilys a Derec …
I ddathlu cyhoeddi llyfr newydd Trio ac Antur yr Eisteddfod, bydd aelodau Criw Trio sy’n ymaelodi wythnos yma yn cael y cynnig cyntaf i gofrestru ar gyfer digwyddiad lansio arbennig iawn yn yr Eisteddfod AmGen – mwy o fanylion i ddod ddiwedd yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru fel aelod (am ddim!) anfonwch neges gydag enw ac oedran plentyn, cyfeiriad e-bost addas a chyfeiriad postio at trio@atebol.com
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am anturiaethau Trio!
Gwybodaeth Ychwanegol
Age | Ages 7-9, Ages 8 – 11 |
---|---|
Language | Welsh |
Cyhoeddwr | Atebol |
Resource Type (Free Items Only) | Website |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.