Cariad Pur

£6.99

Llyfr newydd, gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Canolradd. Rhan o’r gyfres Amdani. Nofel iasoer am Sara, tiwtor Cymraeg. Mae grŵp o bobl Prydeinig yn penderfynu ymgartrefu yng nghefn gwlad Gwynedd ac maent yn awyddus i ddechrau ymdoddi i’r gymuned newydd. Mae Paul, arweinydd y grŵp, yn penodi Sara i ddysgu Cymraeg iddynt. Maen nhw’n talu’n hael, yn gweithio’n galed ac mae Sara’n gweld Paul yn ddeniadol iawn! Ydy Sara wedi dod o hyd i’r bywyd perffaith yn y gymuned newydd neu oes cyfrinachau tywyll yn cuddio ar fferm Bywyd Newydd?

In stock

ISBN: 9781913245054 Categories: , ,

Mae Pegi Talfryn yn diwtor Cymraeg ers blynyddoedd ac yn awdur adnabyddus erbyn hyn. Mae hi’n mwynhau ysgrifennu storïau i bobl sy’n dysgu Cymraeg ac o fewn y gyfres ‘Amdani’ mae eisioes wedi ysgrifennu’r nofel Gangsters yn y Glaw ac wedi addasu Gêm Beryglus (Man Hunt gan Richard MacAndrew).

Gwybodaeth Ychwanegol

Dimensiynau149 × 210 mm
Age

Adult

Language

Welsh

Cyhoeddwr

Atebol

Adolygiadau

Nid oes unrhyw adolygiadau eto.

Byddwch y cyntaf i adolygu "Cariad Pur"