Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2
£99.00
Pecyn newydd o unedau gwaith trawsgwricwlaidd cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 sydd wedi eu cynllunio i gyd-fynd ag egwyddorion adroddiad Yr Athro Donaldson.
Pecyn arloesol sy’n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru.
12 uned waith ar 12 thema wahanol: Gwlad a Thref; Hwyl a Sbri; Yn Yr Ardd; Cymru Ein Gwlad; Fi Fy Hun; Y Tymhorau; Cyfathrebu; Ynys Llanddwyn; Yr Enfys; Goleuni; Cylchoedd; Y Goedwig.
Pob uned hefyd yn cynnwys cysylltiadau Y Pedwar Diben; Asesu ar gyfer Dysgu; Sgiliau Ehangach; Deilliannau Dysgu; Ysgrifennu Estynedig.
Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys co-bach sydd â 92 o adnoddau ychwanegol i gyfoethogi’r gweithgareddau trawsgwricwlaidd.
Gellir gweld enghraifft o un uned waith, Gwlad a Thref, isod.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth am y pecyn neu i drefnu ymweliad ysgol sy’n cyfuno cynllunio trawsgwricwlaidd gyda chyflwyno’r pecyn:
atebol@atebol.com / 01970 832172
Gwybodaeth Ychwanegol
Language | Welsh |
---|---|
Cyhoeddwr | Atebol |
Subject | Literacy, Numeracy |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.