Caneuon y Wladfa

£4.99

Dwy gân wreiddiol gan Robat Arwyn a Hector MacDonald sy’n dathlu’r berthynas ieithyddol a diwylliannol glòs sydd rhwng Cymru a Phatagonia.

In stock

ISBN: 9781910574690 Category:

Dwy gân wreiddiol gan ddau o gyfansoddwyr mwyaf blaengar Cymru a Phatagonia. Mae’r caneuon yn ddathliad o’r berthynas ieithyddol a diwylliannol glòs sydd rhwng Cymru a Phatagonia. Mae ‘Mae’r Awel yn ein Harwain’ wedi’i chyfansoddi gan Robat Arwyn, un o gyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru. Mae’r gân yn sôn am y garfan gyntaf o Gymry a hwyliodd ar y Mimosa o Lerpwl i Borth Madryn ym Mhatagonia yn 1865. Cyfansoddwr blaengar arall, sef Héctor MacDonald, a gafodd ei eni a’i fagu ym Mhatagonia a gyfansoddodd yr ail gân, ‘Can yr Enwau’. Mae’r gân yn dathlu’r berthynas hudolus rhwng yr iaith Gymraeg ag enwau lleoedd ym Mhatagonia. Mae’r geiriau cofiadwy ar gyfer y ddwy gân wedi’u hysgrifennu gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.

Gwybodaeth Ychwanegol

Age

Ages 12+

Language

Welsh

Cyhoeddwr

Atebol

Adolygiadau

Nid oes unrhyw adolygiadau eto.

Byddwch y cyntaf i adolygu "Caneuon y Wladfa"