Ar Gof: Y lloer a’r sêr
£7.99
Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll …
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!
Yr Awdur - Mererid Hopwood
Cafodd Mererid ei geni a’i magu yng Nghaerdydd ond bellach mae’n byw yng Nghaerfyrddin gyda’i theulu ac yn dysgu ym Mhrifysgol Drindod Dewi Sant. Hi yw’r ferch gyntaf i gyflawni’r gamp o ennill tair prif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dimensiynau | 1.5 × 10.3 × 13.3 mm |
---|---|
Age | Adult, Ages 12+, Ages 14+, Ages 16+, Ages 8 – 11 |
Language | Welsh |
Cyhoeddwr | Atebol |
Subject | Literacy |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.